Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 4 Hydref 2016.
Credaf fod fy ymateb cynharach i Bethan Jenkins yn ddigonol ar gyfer y pwynt cyntaf o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM.
O ran eich ail bwynt, roeddwn innau hefyd yn bresennol mewn digwyddiad pwysig iawn yn fy etholaeth i ynglŷn â’r strategaeth ar gyfer pobl dros 50 oed, sydd wedi datblygu o'n strategaeth pobl hŷn hynod arloesol yma yn y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn bod parhad, Mark Isherwood, o ran safbwynt y Llywodraeth o ran ymyrraeth ac ymgysylltiad. Ond, wrth gwrs, rydym yn derbyn y pwynt, fel y dangoswyd yn bendant iawn yn y digwyddiad yr es i iddo, mai pobl hŷn—dros 50 oed—sy’n dod i'r amlwg erbyn hyn, o ran amcanion strategol, ac sydd mewn gwirionedd yn arwain y gwaith o ran polisi ar gyfer pobl hŷn. Hynny, wrth gwrs, yw hanfod cyd-greu.