Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae rhyw ddau neu dri o bwyntiau gen i, a phump o gwestiynau, rwy’n meddwl. O ran pwyntiau agoriadol, rydym wrth gwrs yn croesawu'r gwelliannau a chyfraddau goroesi gwell a chanlyniadau gwell i gleifion pan mae hynny’n digwydd. Mae wrth gwrs yn digwydd ar draws Ewrop a’r byd yn gyffredinol oherwydd gwelliannau mewn triniaeth, mewn technoleg, mewn arloesedd, mewn rhannu arfer gorau, ac ati; y broblem sydd gennym ni yng Nghymru ydy bod y newidiadau hyn ddim yn digwydd a’r gwelliannau ddim yn digwydd mor gyflym ag y byddem ni’n dymuno.
Mae angen inni, wrth gwrs, yng nghanol hyn beidio â thynnu ein llygaid oddi ar y bêl ar y mater sylfaenol o wella amseroedd aros ar gyfer triniaethau a phrofion, achos yn aml iawn mae triniaeth gynharach yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn datblygu salwch cronig neu’n gwneud salwch cronig yn waeth wrth aros.
Y trydydd pwynt—y cyd-destun sydd angen ei grybwyll fan hyn—ydy’r methiant i fynd i’r afael â gordewdra yn benodol, sy’n golygu bod yna gynnydd yn yr angen am wasanaethau i bobl sydd â salwch cronig. Mae fy nghwestiwn cyntaf i yn ymwneud â hynny. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi neu wedi sôn am raglenni addysg strwythuredig i ddisgyblion 11 i 16 oed sydd â chlefyd siwgr, ond nid, wrth gwrs, plant ydy’r unig rai sydd angen hyn. Mae Diabetes UK wedi tynnu sylw at y diffyg presenoldeb mewn cyrsiau o’r fath. Dim ond 2 y cant o’r rhai sydd â chlefyd siwgr math 1, a 6 y cant o’r rhai sydd wedi cael diagnosis diweddar o fath 2 ar draws Cymru a Lloegr sydd wedi mynychu cwrs. Os edrychwn ni ar ffigurau Cymreig yn benodol, mae’r sefyllfa’n waeth byth. Dim ond 1 y cant o ddioddefwyr clefyd siwgr math 1 a 0.9 y cant o rai sy’n dioddef math 2 sy’n cael eu cofnodi fel rhai sydd wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. A dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru sydd â diabetes math 1 sydd wedi hyd yn oed cael cynnig mynd ar gwrs, ac mae hynny’n cymharu â thraean o’r cleifion yn Lloegr. Felly, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod angen darparu mwy o gyrsiau, eu hysbysebu’n nhw’n well, rhannu gwybodaeth amdanyn nhw a sicrhau eu bod nhw ar amseroedd cyfleus, ac ati?
Mi wnaf droi at y data, fel rwyf wedi ei wneud droeon. Mi gafodd ansawdd gwael casglu a chyhoeddi data ei amlygu mewn dim llai na 18 allan o’r 22 ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y pedwerydd Cynulliad. Mae’n rhyfeddol. Ac mae diffyg ac ansawdd gwael y data yn rhwystro cynllunio gwasanaethau. Mae o’n rhwystro’r gwerthusiad rydym ni ei angen o bolisïau a mentrau penodol. A fyddwch chi—rwy’n gofyn eto—yn sicrhau bod hyn yn gwella er mwyn ein sicrhau nad ydym ni yn gorfod dim ond cymryd eich gair chi ar bethau pan fyddwch chi’n hawlio gwelliannau?
Mae yna sôn yn y datganiad heddiw am fuddsoddiad mewn oncoleg, mewn gofal sylfaenol a datblygu safonau mwy cyson mewn gofal canser, ac y bydd hyn yn cynnwys casglu a chyhoeddi data gwell. Fe roddaf enghraifft yn y fan hyn: mae adroddiad diweddar yn awgrymu mai dim ond 32 y cant o gleifion sy’n cael mynediad at weithiwr allweddol. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd bod gan y rhan fwyaf o gleifion weithiwr allweddol mewn gwirionedd, ond mai cofnodi hyn ydy’r her. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn, pan ei fod yn hawlio bod y gwasanaeth yn cyflawni rhywbeth, fod rhaid cael y data i brofi hynny fel ein bod ni yn gallu gwneud ein gwaith ni o ran sgrwtini?
Amrywiaeth rhanbarthol ydy’r pedwerydd cwestiwn. Yn aml, mae’r gwelliannau yn digwydd a chyfraddau goroesi yn gwella oherwydd bod rhyw dechnoleg neu ddull newydd o weithio yn cael ei gyflwyno o’r newydd, a hynny o bosibl yn digwydd mewn un ardal yn well nag ardaloedd eraill. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod y prosesau yma—cyflwyno’r gwelliannau yma—yn digwydd yn gyflymach ac yn fwy cyson ar draws Cymru?
Ac yn olaf, mae’r datganiad heddiw, fel llawer o ddatganiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet, i fod i ddangos bod yr NHS yng Nghymru yn gallu cyflwyno gwelliannau yn effeithiol. Ond os cofiwn ni bod tri allan o naw bwrdd iechyd Cymru mewn ymyrraeth wedi’i thargedu, sydd un cam, wrth gwrs, o dan fesurau arbennig, ac, wrth gwrs, fod yna un bwrdd mewn mesurau arbennig—. Er bod yna ragoriaeth mewn rheoli yn yr NHS yng Nghymru, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus bod y sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth iawn ar draws yr NHS yng Nghymru yno er mwyn gallu gweithredu’r math o newidiadau y mae o am eu gweld?