Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Hydref 2016.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy ac integredig ledled Cymru gyfan. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ar gyfer gwasanaethau o 2015 hyd at 2020 ym mhob rhan o Gymru.