Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 5 Hydref 2016.
Yn ôl yn 2013, cyhoeddodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad adroddiad o’r enw ‘Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau’, ac un o’r argymhellion allweddol a wnaed gan y pwyllgor wrth baratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf ar gyfer Cymru a’r gororau, a fydd yn digwydd ymhen dwy flynedd, yw, a dyfynnaf,
‘Datblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys’.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod angen
‘sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi’.
A allwch ddweud wrthym ble mae’r strategaeth cerbydau, os gwelwch yn dda, ac os nad yw’n bodoli, a allwch ddweud wrthym beth y mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf?