Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr haf, un mater a ddaeth i fy sylw gan etholwyr oedd cymudwyr yn cael eu gadael heb wasanaeth trên mewn gorsafoedd ar lein y Cambrian. Nid problem ynglŷn â chanslo trenau ar fyr rybudd yn unig yw hon, ond un sy’n ymwneud â’u canslo heb unrhyw rybudd. Felly, nid oes unrhyw wasanaethau bws ar waith i helpu cymudwyr a adawyd heb wasanaeth trên er bod yr orsaf yn dal i ddangos bod y trên ar fin cyrraedd. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn ymwybodol o’r broblem hon, ac a yw’n rhywbeth y byddech yn barod i edrych arno?