<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:34, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ydy. Yn wir, cyfarfûm ag Aelodau ar draws y pleidiau ddydd Llun yng ngogledd Cymru ac addewais iddynt y byddwn yn darparu gwybodaeth gan Trenau Arriva Cymru ynglŷn â’u hymdrechion i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn haf o ddarpariaeth annerbyniol o ran gwasanaethau trên. Mae’n dangos yn glir nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben, a dyna pam y mae’n rhaid i ni sicrhau bod y nesaf yn ateb gofynion teithwyr er budd pobl Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwnnw.