Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw am greu gweinyddiaeth ar gyfer busnesau bach Cymru, gan eu bod yn credu y bydd hynny’n darparu gwell ateb i feithrin twf busnesau bach a chanolig cynhenid Cymru. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r cynnig penodol hwnnw?