<p>Cymorth i Fusnesau Bach </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:39, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig ledled Cymru, gan wneud yr hyn y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei argymell ar gyfer eu model, fwy neu lai. Os caf dynnu sylw at lwyddiant Busnes Cymru, hyd yma eleni, mae 3,638 o unigolion a busnesau wedi cael eu cynorthwyo â chyngor busnes, ac o ganlyniad i hynny, mae Busnes Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged o 5,000 o swyddi newydd ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal, mae Busnes Cymru yn parhau i weld lefelau uchel o ymholiadau—oddeutu 18,000—sy’n cael ei hybu gan y gwasanaeth ar ei newydd wedd, gan gynnwys y Rhaglen Cyflymu Twf a’r gwasanaeth cymorth ar-lein i fusnesau newydd. Nawr, mae hynny wedi darparu dros 8,000 o ddefnyddwyr cofrestredig newydd.