Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, y gefnogaeth fwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein stryd fawr, fyddai sicrhau chwarae teg. Mae gan ddatblygiadau mawr ac archfarchnadoedd ar gyrion y dref ddigonedd o leoedd parcio am ddim, ond nid yw’r fantais honno gan fusnesau bach sy’n gweithredu ar ein stryd fawr. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gynghorau ledled Cymru er mwyn eu galluogi i gynnig rhywfaint o barcio am ddim yng nghanol ein trefi?