Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, gan Gymru y mae’r trenau hynaf sydd ar waith yn y DU, gyda rhai ohonynt bron yn 40 mlynedd yn oed, ac mae eu gallu i gynnig gwasanaeth effeithlon ar gyfer yr oes fodern yn prysur leihau. Clywais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweithredwr trenau nesaf yng Nghymru yn darparu gwasanaeth gwell a mwy modern?