Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae gennym ddull gwahanol o benderfynu ar y fasnachfraint a fydd yn weithredol o 2018 ymlaen, lle’r ydym yn nodi’r canlyniadau ac yna bydd y cynigwyr yn cyflwyno’u cynigion ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hynny. Rydym yn cydnabod nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben. Nid oes digon o gerbydau ac maent yn rhy hen. Mae’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn dangos i ni fod teithwyr yn teimlo bod y trenau’n heneiddio, nad oes digon o wasanaethau trên ac nad yw’r gorsafoedd yn ddigonol. O ran hygyrchedd, roedd cwestiynau hefyd ynglŷn ag a ellir darparu’n llawn ac yn briodol ar gyfer symudedd cyfyngedig. Felly, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, rydym wedi gwneud yn siŵr fod ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi’n briodol—dros 190 o ymatebion—cyn gosod y canlyniadau hynny yn erbyn dymuniadau’r cyhoedd.