<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:54, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb manwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Erbyn 2020, mae’n rhaid i bob gorsaf a thrên fod yn gwbl hygyrch. Ar hyn o bryd, 53 y cant yn unig o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod contract Trenau Arriva yn dod i ben yn 2018, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni’r gwelliannau hyn. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r gwelliannau hyn ac i ddiwallu’r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod pobl anabl ledled Cymru yn cael mynediad llawn a hygyrch at y rhwydwaith rheilffyrdd?