<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:55, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru o ran y fasnachfraint reilffyrdd ddielw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y bydd yn rhaid i’ch Llywodraeth ddysgu gwersi gan fasnachfreintiau’r gorffennol ac y bydd yn rhaid iddi reoli’r risgiau wrth gaffael yr hyn sy’n fuddsoddiad sylweddol i Gymru yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, gyda hynny, a ydych yn gwbl hyderus ar y cam hwn eich bod yn y sefyllfa orau i ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gaffael y fasnachfraint nesaf? A allwch gadarnhau pa un a fydd masnachfraint Cymru yn ddarparwr hollol ddielw? Yn olaf, a ydych yn credu bod gennych ddigon o adnoddau a sgiliau yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru i ddarparu masnachfraint Cymru?