<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:56, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn, yn arbennig am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn hynod ddefnyddiol o ran sylweddoli a deall yr hyn sydd angen ei ddysgu ar gyfer y fasnachfraint nesaf. O ran adnoddau dynol, rwy’n hyderus fod yr arbenigedd gennym o fewn Trafnidiaeth Cymru. Mae llawer o wersi y mae angen i ni eu dysgu, ac mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, yn cadarnhau’r hyn a ddywedwyd gan lawer o’r ymatebwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori.

O ran yr hyder sydd gennyf mewn perthynas â’r fasnachfraint nesaf, mae yna drafodaethau sydd angen eu cael o hyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â theithiau trawsffiniol ac mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i amserlenni, ond rwy’n hyderus y byddwn yn cadw at yr amserlen, ac wrth sicrhau bod meincnodau ar waith ar gyfer cychwyn y fasnachfraint nesaf, disgwyliaf y bydd yn darparu lefel uwch o wasanaeth nag y mae teithwyr yn ei chael ar hyn o bryd.