<p>Datblygu Economaidd a Seilwaith yng Nghanol De Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:57, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn meddwl eich bod wedi troi i fod y Prif Weinidog yno gyda’ch ateb byr iawn, ‘gwnaf’, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.]

Diolch am y datganiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un peth yr hoffwn dynnu sylw ato yw’r angen am ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddau brosiect seilwaith mawr ar y gweill ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg—un yw’r gwelliant i’r Five Mile Lane a’r llall yw’r ffordd fynediad i safle datblygu Aston Martin yn Sain Tathan. Ond i lawer o bobl yn y rhan ddwyreiniol o Fro Morgannwg, ac yn wir, yng Nghaerdydd, y dagfa fawr yn economaidd ac yn gymdeithasol o ran materion trafnidiaeth yw’r un drwy bentref Dinas Powys.

Cafwyd awgrymiadau amrywiol a chyflwynwyd cynigion gan y cyngor i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ond nid oes unrhyw beth wedi symud yn iawn mewn perthynas â’r cynnig penodol hwn. A ydych chi, yn ystod y cyfnod byr y buoch yn Ysgrifennydd y Cabinet, wedi gallu ymgyfarwyddo â’r cynigion ar gyfer Dinas Powys a’r problemau trafnidiaeth mewn perthynas â’r pentref hwn ym Mro Morgannwg? Os nad ydych, a allwch gadarnhau y byddwch yn gweithio gyda’ch swyddogion i ymgysylltu â’r gymuned leol, ac yn wir, â’r cyngor, i weld a ellir symud y cynigion hyn yn eu blaenau?