Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 5 Hydref 2016.
Ydw, rwy’n ymwybodol o’r broblem yn yr ardal hon, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu’n agosach gyda’r awdurdod lleol mewn ymgais i ganfod ateb y gellir ei ariannu’n llawn. Mae gennym raglen uchelgeisiol iawn i uwchraddio seilwaith ledled Cymru, ond rwy’n cydnabod bod Dinas Powys yn broblem unigryw y mae angen ei datrys. Os oes unrhyw ran y gallaf ei chwarae o ran hwyluso’r ateb, byddaf yn falch o wneud hynny.