Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Hydref 2016.
Gwnaf, yn wir. Mewn gwirionedd, mae ein dogfennau contract ar gyfer trafnidiaeth yn datgan bod yn rhaid i’r contractwr sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir ganddynt a’u his-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion cyrchu cyfrifol ar gyfer cynnyrch adeiladu, ac mae’n datgan yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd y contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar unrhyw brosiect. Mae’r holl arian grant a buddsoddiadau mewn prosiectau fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel yr amlinellais yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, yn cael eu defnyddio fel ysgogiadau i’w gwneud yn ofynnol i rai sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ddarparu tystiolaeth ynglŷn â sut y mae contractau’r gadwyn gyflenwi yn cael eu hagor i gyflenwyr dur lleol. Mae ffrwd waith y tasglu dur wedi datblygu cyfres o gynlluniau ar gyfer caffael fel rhan o’u pecyn cydgysylltiedig o gymorth i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU, ac mae’n mynd rhagddo yn dda iawn yn wir.