<p>Datblygu Economaidd a Seilwaith yng Nghanol De Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:00, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried y canlynol: cytundeb tir Llys-faen, hyd at £40 miliwn wedi’i golli; tir a werthwyd yn y Rhws, £7.25 miliwn wedi’i golli; dwy siop ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi’i golli; eich Llywodraeth yn destun cywilydd ac yn cael dirwy oherwydd ei gweithdrefn gaffael amheus, £1.52 miliwn wedi’i golli? Dros £50 miliwn wedi’i golli, ac mae llawer yn dweud mai dyma’r Llywodraeth fwyaf di-glem erioed yng Nghymru. Felly, beth y mae busnesau yng Nghanol De Cymru i’w wneud o’r golled syfrdanol hon o arian—syfrdanol?