Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Hydref 2016.
Yn 2015, roedd mwy nag un o bob pedwar oedolyn mewn gwaith yng Nghymru yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw, ac mae Sefydliad Bevan yn nodi bod bron i hanner y gweithwyr rhan-amser, menywod yn bennaf, hefyd yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu’r cyflog byw ar draws economi Cymru?