<p>Lefelau Ffyniant Economaidd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:04, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweld y cyflog byw—ac mae hynny’n golygu’r cyflog byw go iawn—yn cael ei gyflwyno ar draws yr economi. Fel Llywodraeth, rydym yn rhoi camau ar waith i hyrwyddo’r cyflog byw yn y sector preifat. Mae deunydd yn cael ei gynhyrchu ar fanteision mabwysiadu’r cyflog byw, ac mae hwnnw’n cael ei rannu gyda busnesau, gan ddefnyddio mecanweithiau cymorth busnes presennol, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector preifat ar yr agenda hon. Lywydd, rydym hefyd yn cydnabod y rôl y gall caffael ei chwarae yn cefnogi camau i fabwysiadu’r cyflog byw ar raddfa ehangach, ac rydym wedi bod yn ymgynghori yn ddiweddar ar ddatblygu cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol o fewn y gadwyn gyflenwi, sy’n archwilio sut y gall awdurdodau contractio ystyried pecynnau gwaith teg, gan gynnwys y cyflog byw, fel rhan o’r broses gaffael.