Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Hydref 2016.
Yn ei ddiffyg ateb i’r cwestiwn gan Adam Price yn gynharach, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet fôr a mynydd o’r ffaith fod mwy o bobl mewn gwaith heddiw yng Nghymru nag erioed o’r blaen, nad yw’n syndod gan fod y boblogaeth wedi cynyddu. Ond ni ddywedodd ddim am yr hyn y mae’r bobl mewn gwaith yn ei ennill mewn gwirionedd. Bymtheg mlynedd yn ôl, roedd Cymru yn yr ail safle o’r gwaelod yn nhablau cynghrair y gwledydd a rhanbarthau Lloegr. Heddiw, mae Cymru ar y gwaelod; mae wedi cael ei goddiweddyd gan Ogledd Iwerddon. Roedd yr Alban ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl; mae ymhellach byth ar y blaen erbyn hyn. Roedd de-orllewin Lloegr ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl, ac mae ymhellach ar y blaen eto erbyn hyn. Onid yw record y Llywodraeth Lafur hon yn un o fethiant llwyr?