<p>Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Shadow Spokesperson (Wales) 2:07, 5 Hydref 2016

Diolch am yr ateb yna. Mae sicrhau bod ein cymunedau cefn gwlad wedi eu cysylltu yn dechnolegol yn hanfodol ar gyfer yr holl sectorau yn ein heconomi ni. Gan fod adroddiad wedi ei gyhoeddi heddiw sy’n tanlinellu’r ffaith bod rhwydwaith ‘mobile’ ar gyfer trefi a phentrefi yng Nghanolbarth a Gorllewin a Cymru yn wael, a ydy’r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw sylw i’r syniad o roi canllawiau newydd i lywodraeth leol a fyddai’n eu galluogi nhw i ymlacio eu rheolau cynllunio nhw fel ein bod ni yn gallu adeiladu mastiau talach—fel y maent wedi’i gytuno i’w wneud yn Lloegr—hyd at 25m, fel ein bod yn gallu gwella’r signal yn yr ardaloedd yna?