<p>Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:08, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Wrth gwrs, mae cysylltedd symudol yn faes heb ei ddatganoli. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen lle rydym wedi gallu ymyrryd yn uniongyrchol drwy Cyflymu Cymru. Bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau mai Cymru fydd y wlad fwyaf cysylltiedig yng ngorllewin Ewrop, ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru, fel Powys, mae 63 y cant o eiddo yn gallu cael mynediad ato erbyn hyn. Byddwn yn gweithio hyd at 2017 i sicrhau bod y 37 y cant o’r safleoedd sy’n weddill yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.

Mae hefyd yn werth nodi fod gan eiddo yng nghanolbarth Cymru fand eang sy’n llawer cyflymach na’r cyfartaledd ledled Cymru. Mewn rhannau o Geredigion, er enghraifft, mae’r cyflymder cyfartalog yn uwch na 65 Mbps.

Fel y soniais, nid yw cysylltedd symudol wedi’i ddatganoli, ond rydym yn parhau i ymgysylltu â’r gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol i nodi beth y gellir ei wneud i wella’r signal mewn rhannau gwledig o Gymru, ac mae hynny’n cynnwys rhoi pwysau ar Ofcom drwy gyfarfodydd, ac yn wir drwy ymatebion i ymgynghoriadau, i ddefnyddio eu pwerau rheoleiddio i wella signal ffonau symudol ledled Cymru, yn cynnwys galw am gynnwys rhwymedigaethau’n ymwneud â chyrhaeddiad daearyddol y signal mewn arwerthiannau sbectrwm yn y dyfodol, ac nid rhwymedigaethau signal sy’n ymwneud yn unig â nifer yr unigolion sy’n gallu cael mynediad at rwydweithiau symudol.