<p>Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:11, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, amlinellu’r gadwyn awdurdod i ni o ran y penderfyniadau a’r cymeradwyaethau sy’n berthnasol o ran y defnydd o arian cyhoeddus ar gyfer hybu datblygiad economaidd? Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall yn glir beth yw eich barn o ran pwy sy’n ei rhoi ar waith, o Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i lawr drwy’r gadwyn awdurdod, pwy sy’n cymeradwyo ac yn sicrhau diwydrwydd dyladwy a phwy sy’n gyfrifol wedyn am fonitro canlyniadau’r diwydrwydd dyladwy hwnnw.