<p>Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:10, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gwrthwynebu’n reddfol unrhyw dreth ar deithio drwy drethu defnydd o bont, mater a fydd, o bosibl, yn cael ei grybwyll cyn bo hir mewn cwestiwn sydd i ddod gan Mark Reckless. O ran y bont benodol y mae’r Aelod yn sôn amdani yn yr ardal fenter, nid wyf wedi ymchwilio’r posibilrwydd o roi statws cefnffordd i’r llwybr penodol hwnnw eto, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn awyddus i’w ystyried pe bai’n gallu arwain, yn ei dro, at dwf yn yr economi leol.