Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 5 Hydref 2016.
A gaf i, am unwaith, rannu newyddion positif â’r Ysgrifennydd Cabinet? Mae nifer yr ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf 5 y cant i fyny, mae nifer yr ymweliadau gan deuluoedd lan gan draean, mae’r gwerthiant aelodaeth lan 41 y cant ac mae yna warged wedi bod i’r gerddi dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd ychwanegu at y newyddion positif yma drwy gadarnhau ymrwymiad tymor hir gan Lywodraeth Cymru i’r gerddi, sydd, wedi’r cwbl, yn sefydliad cenedlaethol?