<p>Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:15, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n croesawu’r newyddion cadarnhaol o’r ardd yn fawr. Mae’n wych clywed bod ffigurau ymwelwyr ac aelodaeth wedi cynyddu. Wrth gwrs, mae’r ardd wedi manteisio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis y Flwyddyn Antur yn ogystal â’r cyllid a ddarparwn yn flynyddol i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu denu i’r ardd, nid unwaith yn unig, ond sawl gwaith. Dyna pam y credaf fod y niferoedd aelodaeth i’w croesawu’n arbennig. Mae pob partner—pob partner—gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn cytuno bod yr ardd yn ased gwerthfawr iawn i gynnig twristiaeth Sir Gaerfyrddin. Ond mae’r ffaith fod cyllidebau’n lleihau yn golygu nad yw ymrwymiad penagored i gyllid yn y dyfodol yn gynaliadwy ac felly mae angen parhau i wthio am fwy o lwyddiant masnachol, ac rwy’n falch o weld bod yr ardd yn ymateb i hyn.