Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae ein cenedl fel cyrchfan i dwristiaid yn hanfodol wrth hyrwyddo Cymru i’r byd, a’n treftadaeth yw ein hanes byw, rhywbeth pendant o’n gorffennol y gall ein plant ryngweithio ag ef. Mae yna asedau hanesyddol mawr yng Nghaerffili. Mae gennym y castell consentrig mwyaf yn Ewrop, heneb restredig gradd II yng nghastell Rhiw’r Perrai, sydd angen gwaith, a Llancaiach Fawr, maenordy Tuduraidd ger Nelson sy’n anelu i ddenu 80,000 o ymwelwyr erbyn y flwyddyn 2020. Bydd gwarchod ac adfer y safleoedd treftadaeth eiconig hyn yn hanfodol i roi hwb i dwristiaeth a’r economi leol. Mae fy etholwyr yn cymryd rhan mewn grwpiau lleol, sefydliadau a grëwyd i achub yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig castell Rhiw’r Perrai. Sut y gallant chwarae rhan weithredol yn cryfhau’r sector treftadaeth yn eu cymunedau?