<p>Y Sector Treftadaeth </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:18, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae grwpiau lleol yn gwbl hanfodol yn y gwaith o helpu’r amgylchedd hanesyddol i barhau i fod yn lle bywiog y mae pobl yn ymweld ag ef, lle y mae pobl yn ei brofi, lle y gall pobl wirfoddoli a lle y gall pobl feithrin sgiliau. Mae’r grŵp gwirfoddol sydd wedi edrych ar gastell Rhiw’r Perrai yn arbennig o weithgar, ac rwy’n eu llongyfarch ar eu gwaith. Yn etholaeth yr Aelod, mae gennym yr atyniad ymwelwyr sy’n tyfu gyflymaf yn ystad Cadw—sef castell Caerffili—ac mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi digwydd, i raddau helaeth, o ganlyniad i weithgareddau’r Flwyddyn Antur, gan gynnwys Draig Caerffili, y gwn fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi ymweld â hi.