Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol wedi honni y gallai mwy o wasanaethau i helpu i wneud diagnosis o’r cyflwr hwn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Maent yn dweud mai hanner ysbytai Cymru yn unig sy’n darparu gwasanaethau cyswllt torri esgyrn i gleifion allanol ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gwasanaethau a allai helpu i wneud diagnosis ac atal osteoporosis yng Nghymru?