<p>Dulliau Atal Salwch </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:22, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed eich sylwadau, ac mae hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef. O ran fy nghyfrifoldebau i, rwy’n awyddus iawn i weld gwaith atal cwympiadau yn cael ei wella yng Nghymru, a byddai hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dioddef o osteoporosis hefyd, o ran sicrhau nad ydynt yn cael cwymp sy’n eu gwanychu’n fawr, a allai gael effaith ddrwg iawn ar eu canlyniadau personol, eu lles ac yn y blaen. Felly, mae’n ymwneud â’r effaith honno. Mae gennym ein rhaglen iechyd cyhoeddus, y rhaglen Gwella 1000 o Fywydau, ac mae honno’n cynnwys gwaith penodol ar atal cwympiadau, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig yn enwedig ar gyfer pobl sy’n dioddef o osteoporosis.