<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:27, 5 Hydref 2016

Diolch, Lywydd. Rydw i’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymuno â fi i gondemnio’r rhethreg gan Lywodraeth Geidwadol Prydain dros y dyddiau diwethaf a’r amarch sydd wedi cael ei ddangos tuag at staff o’r tu allan i’r ynysoedd yma sydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr o fewn yr NHS. Mi fuaswn i eisiau pellhau fy hun oddi wrth bron popeth y mae Jeremy Hunt yn ei ddweud. Ond, gan ddod at fy nghwestiwn i, mae e wedi cyhoeddi’r wythnos yma ei fod eisiau gweld rhagor o lefydd dysgu mewn colegau meddygol yn Lloegr. A ydy hynny’n rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno ei weld yn digwydd yng Nghymru?