2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Hydref 2016.
Galwaf nawr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Rydw i’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymuno â fi i gondemnio’r rhethreg gan Lywodraeth Geidwadol Prydain dros y dyddiau diwethaf a’r amarch sydd wedi cael ei ddangos tuag at staff o’r tu allan i’r ynysoedd yma sydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr o fewn yr NHS. Mi fuaswn i eisiau pellhau fy hun oddi wrth bron popeth y mae Jeremy Hunt yn ei ddweud. Ond, gan ddod at fy nghwestiwn i, mae e wedi cyhoeddi’r wythnos yma ei fod eisiau gweld rhagor o lefydd dysgu mewn colegau meddygol yn Lloegr. A ydy hynny’n rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno ei weld yn digwydd yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n rhannu eich pryder am y sylwadau a wnaeth Jeremy Hunt yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon eisiau gweld cyfleoedd i fwy o’n pobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU gael gyrfa mewn hyfforddiant meddygol ac ymarfer meddygol, ond mae gwahaniaeth go iawn rhwng hynny a dweud nad oes croeso i feddygon tramor bellach, neu eu bod yma fel mesur dros dro yn unig. Yn wir, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt yn mynegi fy mhryder ynglŷn â’r rhethreg y mae wedi bod yn ei harddangos yr wythnos hon a’r difrod sylweddol y gallai ei wneud, nid yn unig i’r GIG yn Lloegr, ond ar draws teulu’r GIG yn y pedair gwlad. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â fy safbwynt i, mae hwnnw wedi’i gofnodi, ac ni fydd gennym unrhyw ran yn hyn. Yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi’r llwybr y mae’r Ceidwadwyr yn ei ddilyn.
O ran y dyfodol ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a’r DU a’u gallu i ymgymryd â hyfforddiant meddygol yn y wlad hon, rwyf eisoes wedi nodi ein bod yn edrych ar y llefydd sydd gennym ar hyn o bryd a sut i annog mwy o fyfyrwyr o Gymru i ymgymryd â hyfforddiant meddygol mewn man o’u dewis. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gwaith yma yng Nghymru ac mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar nifer y llefydd hyfforddiant meddygol sydd gennym. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ar y rhagoriaeth sydd gennym yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, gyda’r cyrsiau mynediad israddedig ac ôl-raddedig sy’n cael eu cynnig, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal y safon honno, ond hefyd fod gennym lwyfan gwirioneddol i fwy o yrfaoedd ym maes addysg a hyfforddiant meddygol, yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y llefydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mangor a rhannau eraill o Gymru. Byddwn yn croesawu unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru—a byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth a chynnig fy nghydweithrediad—ar fater cynyddu llefydd hyfforddiant meddygol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ar sawl achlysur, wedi dweud bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon ymgynghorol a meddygon yng Nghymru. Rydym wedi edrych ymhellach ar yr ystadegau hyn. O’r 65 maes arbenigol ysbyty sydd â data ar StatsCymru, mae 32 ohonynt wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 13 ohonynt heb weld unrhyw newid, ac mae 20 ohonynt wedi gweld rhywfaint o gynnydd. Yr unig reswm y mae un o’r rheini, llawfeddygaeth fasgwlaidd, wedi gweld cynnydd yw oherwydd ei fod bellach yn cael ei gyfrif fel arbenigedd ar wahân yn hytrach na chael ei restru fel llawfeddygaeth gyffredinol. Felly, mae’n parhau i fod yn ffaith fod mwy o feysydd arbenigol wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd na sydd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd. A ydych yn fodlon gyda’r sefyllfa honno?
Wel, mae’n ffaith, ac nid barn, fod nifer y meddygon ymgynghorol wedi codi’n sylweddol dros y degawd diwethaf. Ein her bob amser yw hon: ym mha rifau rydym yn parhau i wynebu her a beth y gallwn ni ein hunain ei wneud ynglŷn â hynny? Oherwydd, i ateb y cwestiwn cyntaf, a ofynnwyd gan Paul Davies rwy’n credu, rydym yn cydnabod bod yna rai meysydd arbenigol lle y ceir heriau gwirioneddol ar draws teulu’r DU. Ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o hynny’n her ryngwladol hefyd. Felly, rydym yn derbyn y safbwynt am y niferoedd cyffredinol, ond yn edrych wedyn ar y meysydd arbenigol hynny. A dyna pam, yn yr ymgyrch recriwtio y byddwch wedi ein clywed yn ei thrafod ac yn siarad amdani, ein bod yn awyddus i hysbysebu Cymru fel lle gwych i weithio yn ogystal â byw, ac i weld pobl yn cael eu hyfforddi yma hefyd.
Felly, nid oes unrhyw hunanfodlonrwydd na diffyg cydnabyddiaeth fod gennym heriau gwirioneddol mewn rhai meysydd arbenigol, ac mae sicrhau bod y model gofal iechyd yn gywir yn rhan o’r hyn y mae angen i ni ei wneud i annog pobl i ddod i weithio yma. Oherwydd pan fydd pobl yn chwilio am y cam nesaf yn eu gyrfa—ble i fyw, ble i fagu teulu—mewn gwirionedd, maent hefyd yn meddwl, ‘Beth fydd ansawdd y gweithle, beth fydd y model gofal y byddaf yn gweithio ynddo? A yw’n gynaliadwy? A fydd yn rhoi’r cyfleoedd rwyf eu heisiau i roi gofal gwych i gleifion?’, ond rhannau eraill o’u bywydau hefyd. Felly, rydym yn edrych ar y darlun cyfan wrth i ni symud ymlaen i geisio deall sut rydym yn recriwtio’r gweithlu meddygol rydym ei eisiau heddiw ac yn y dyfodol, a dyfodol gofal iechyd yma yng Nghymru.
Rydych wedi datgan fel ffaith, unwaith eto, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos, fod cynnydd wedi bod yn nifer y meddygon yng Nghymru. Un o’r ffeithiau pellach roeddem yn ei gweld yn ddiddorol yw bod un maes arbenigol penodol wedi gweld cynnydd o 207 o feddygon ychwanegol yn y flwyddyn ddiwethaf. Y maes arbenigol penodol hwnnw, er ei fod yn cael ei restru fel maes arbenigol ysbyty mewn gwirionedd, yw ‘ymarfer cyffredinol (meddygon dan hyfforddiant)’.
Nawr, gofynasom am eglurhad ar yr hyn y mae hynny’n ei olygu, ac mae’n cyfeirio, mewn gwirionedd, at feddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol, nid meddygon ymgynghorol arbenigol sy’n gweithio mewn ysbytai. A’r rheswm am gynnydd mor fawr oedd y ffaith fod meddygon teulu dan hyfforddiant a oedd yn cyflawni cylchdro mewn practis meddygon teulu yn flaenorol yn cael eu cyflogi gan y feddygfa, ac felly byddent yn gadael cyflogres GIG Cymru, ac ni fyddent yn ymddangos yn ffigurau StatsCymru. Nawr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw’r cyflogwr arweiniol bellach ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant. Felly, maent yn ymddangos yn y ffigurau. Dyma’r rheswm am y cynnydd yn y niferoedd. Heb y newid hwnnw yn y ffordd y mae ystadegau’r gweithlu yn cael eu cofnodi, byddai’r ffigurau, mewn gwirionedd, wedi dangos gostyngiad o 84 meddyg ysbyty. Yn wir, mae chwech o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi dangos gostyngiad yn nifer y meddygon ysbyty a gyflogir ganddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod gostyngiad wedi bod yn nifer y meddygon teulu, a byddai’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth pe baech yn cyhoeddi’r niferoedd cyfwerth ag amser llawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bellach fod eich plaid yn camarwain wrth honni bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon ymgynghorol a meddygon?
Na, nid wyf yn derbyn hynny. Nid wyf yn derbyn y ffordd rydych wedi cyflwyno’r ffigurau. Rydym yn hyderus fod mwy o feddygon teulu bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, rydym yn hyderus fod mwy o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y GIG yng Nghymru yn ogystal. Rydych yn tynnu sylw at y bartneriaeth cydwasanaethau, ac mewn gwirionedd mae’n wirioneddol gadarnhaol mai’r cydwasanaethau bellach yw’r corff sy’n cyflogi meddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol. Mae’n rhywbeth y mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn gefnogol iawn iddo, gan ei fod yn caniatáu i’r meddygon hynny gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn eu perthynas contract cyflogaeth, ac mae’n golygu, er enghraifft, fod cael morgais yn llawer haws, gan fod cyflogwr sefydlog yno hefyd. Felly, rydym yn gwneud rhywbeth da i feddygon teulu dan hyfforddiant. Ac yn ôl yr unig ffigurau a welais fy hun, mae gennym fwy o feddygon teulu o ran cyfrif pennau, ac mae gennym fwy o ymgynghorwyr hefyd o ran cyfrif pennau.
Yr her bob amser yw beth arall sydd angen i ni ei wneud, pa amserlen y gallwn ei dilyn, a sut rydym yn mynd ati i wynebu ein heriau mewn ffordd nad yw’n amharu ar y gwasanaeth, a sut rydym yn denu pobl i ddod yma mewn gwirionedd, i hyfforddi, i fyw, ac i weithio. Dyna ein huchelgais, a dyna ble rydym yn disgwyl gwneud cynnydd pellach ar hyn yn ystod yr hydref hwn ac wedi hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng 2009 a 2014, roedd gwariant y GIG ar iechyd meddwl yn amrywio o 11.4 y cant i 11.9 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Nawr, o gofio bod llinellau cyllideb iechyd meddwl yn cynnwys popeth o wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i ddementia, anhwylderau seicotig, gwasanaethau amenedigol, iselder a gorbryder, a ydych yn credu bod gwario 12 y cant o gyllideb y GIG yn ei chyfanrwydd ar iechyd meddwl, gydag 88 y cant yn cael ei wario ar iechyd corfforol, yn gydbwysedd cywir?
Mewn gwirionedd, gwariant ar iechyd meddwl yw’r bloc unigol mwyaf o wariant sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed i a’r Gweinidog blaenorol yn nodi’r adolygiadau a wnaethom, er enghraifft, ar y cyllid sydd wedi’i glustnodi, er mwyn gwneud yn siŵr fod hynny’n wir, er mwyn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario. Ac mae ein her yn fwy na dweud yn syml, ‘Gadewch i ni edrych ar yr arian’. Ein her bob amser yw: a ydym yn cael y canlyniadau cywir, a ydym yn sicrhau bod digon o bobl ag anghenion go iawn yn cael eu gweld, a sut rydym yn gwneud hynny? Ac yn aml hefyd, mae’n fwy na gwariant ar iechyd, gan fod llawer o hyn yn ymwneud â lles mwy cyffredinol. Er enghraifft, ni fydd rhagnodi cymdeithasol yn lleihau fel gwariant yn nhermau iechyd meddwl, ond mae’n sicr yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mewn termau ataliol, mae’n aml yn rhan o’r darlun. Felly, rwy’n ymrwymedig i barhau i sicrhau bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth go iawn o ran yr hyn a wnawn yn y gyllideb, ond hefyd o ran darparu gwasanaethau a chanlyniadau yn ogystal. Felly, edrychaf ymlaen at y cwestiynau ar yr heriau sydd gennym o hyd—ac rwy’n cydnabod bod gennym rai hefyd—wrth i ni barhau i geisio lleihau amseroedd aros, ond hefyd er mwyn gweld dull go iawn a gwrthrychol o fesur canlyniadau yn cael ei gyflwyno ar draws y GIG, ac rwy’n hyderus y byddwn yn ei weld yn ystod y tymor hwn.
Llithro i ffwrdd rhag fy nghwestiwn oedd hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai gofyn am y gwariant o 12 y cant fel canran a wneuthum, ac fe ateboch chi’n syth drwy ddweud mai’r gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl yw’r llinell wariant fwyaf. Ond dyna’n union yw fy mhwynt. Mae gennym linellau gwariant cardiaidd, mae gennym linellau gwariant diabetes yn y gyllideb iechyd, ond rydym wedi rhoi popeth i mewn i iechyd meddwl. Felly, iawn, gallwch ddweud bod 12 y cant ar gyfer iechyd meddwl yn wych, ond y broblem yw bod iechyd meddwl yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau gwahanol, gyda gwahanol gyflyrau cydafiachus. Nawr, bûm yn adolygu adroddiad Pricewaterhouse Coopers ar drefniadau clustnodi cyllid ar gyfer iechyd meddwl, ac maent yn bendant o’r farn, ac rwy’n dyfynnu hwn, mai:
Ychydig iawn o berthnasedd parhaus sydd i gyllid wedi’i glustnodi ar sail patrymau gwariant hanesyddol yn yr amgylchedd gweithredu cyfredol.
Felly, a ydych yn cytuno â’r casgliad hwn, ac os felly, sut y byddwch yn symud oddi wrth y model cyllid wedi’i glustnodi?
Rydym wedi cael yr adolygiad hwn yn y gorffennol, ac rwy’n hapus i edrych eto ar y ffordd orau o ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr ei fod yno fel ffactor go iawn ym meddyliau’r bobl sy’n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaeth. Ond nid y llinellau yn y gyllideb a gasglwyd o fewn iechyd meddwl yw’r unig ddangosydd, fel y nodais yn fy ateb. Mae mwy iddi na dweud yn syml mai 12 y cant yn unig sydd i iechyd meddwl a bod popeth arall yn iechyd corfforol. Ac wrth gwrs, nid y cyllid wedi’i glustnodi yw’r unig ddangosydd o’r holl arian sy’n cael ei wario. Mewn gwirionedd rydym yn gwario mwy na’r swm o arian a glustnodwyd ar wasanaethau iechyd meddwl. Dof yn ôl eto at fy niddordeb mewn dweud, ‘Gadewch i ni gael llinell, o ran canran, ar yr hyn y dylem ei wario o ran iechyd meddwl a beth y dylem ei wario ar bethau eraill’—yr her bob amser yw: a ydym yn cael gwerth priodol am yr arian rydym yn ei wario, a ydym yn cyflawni yn erbyn gwir anghenion ein poblogaeth, ac a allwn wella hynny ymhellach, o gofio bod yr adnodd sydd ar gael i ni’n gyfyngedig? Dyna pam rwy’n cyfeirio at y gwaith rydym yn ei wneud ar ganlyniadau a’r gwaith rydym wedi’i wneud gyda chynghrair y trydydd sector, lle mae ganddynt hwy hefyd gwestiynau anodd i ni ynglŷn ag amseroedd aros, ac ynglŷn â chanlyniadau yn ogystal, ond mae yna ddatblygiad go iawn. Mae yna raglen yma sydd nid yn unig yn ymwneud â’r ffordd rydym yn rheoli adnodd sy’n prinhau a chanlyniadau sy’n lleihau, ond sut rydym yn edrych ar beth y gallwn ei wneud i wella’r hyn y gallwn ei ddarparu ym mhob maes gwariant iechyd meddwl, a hefyd y gwasanaeth cyfan fel gwasanaeth holistig ar gyfer y person cyfan.
Brif Weinidog—rwy’n cadw eich galw’n Brif Weinidog; rhaid bod hyn yn arwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch eto yn awr am gyflawni’r hyn y mae pobl Cymru ei angen. Ac a dweud y gwir, nid ydym yn cyflawni’r hyn mae pobl Cymru ei angen o ran iechyd, o ran iechyd meddwl. Faint ohonom yma sydd wedi siarad o hyd am wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed? Gwyddom fod yna lawer iawn o broblemau yn y maes iechyd meddwl yn ei gyfanrwydd. Nid oes gennym ddigon o arbenigwyr, ac nid ydym yn gwario digon o arian ar gael y gwasanaethau at y bobl. Ac mae’n bwysig, oherwydd bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl yn ein bywydau, sy’n nifer syfrdanol o uchel. Felly, mewn iechyd corfforol, mae eich Llywodraeth yn rhoi llawer o sylw i gydafiachusrwydd, ond nid yw’r un peth yn—ni cheir yr un safbwynt o fewn iechyd meddwl.
Felly, hoffwn wybod hyn, Ysgrifennydd y Cabinet: yn eich cynllun iechyd meddwl sydd i’w gyhoeddi cyn bo hir, faint y gallwn ei ddisgwyl o ran capasiti a galw, ac o ran rhoi diwedd ar weithio mewn seilos? Oherwydd rwy’n meddwl weithiau ein bod yn anghofio, ac mae gennyf etholwyr sy’n gallu ategu hyn dro ar ôl tro, y gallai person sydd â dementia fod yn dioddef o ganser hefyd, gall person sy’n dioddef o iselder fod â chyflwr corfforol, gall plentyn mewn cadair olwyn fod ag anhwylderau bwyta, ond rydym yn tueddu i ddewis yr elfen gorfforol i’w thrin yn gyntaf a gadael y mater iechyd meddwl yn ail. Hoffwn weld diwedd ar weithio mewn seilos fel hyn, er mwyn i ni allu cyrraedd y bobl, yr un o bob pedwar ohonom a fydd yn cael rhyw fath o gyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn ein cyrraedd, ac mae arnaf ofn nad ydym, yn syml iawn, yn dilyn y trywydd iawn ar hyn o bryd.
Mae yna bob amser ragor y gallwn ei wneud i gydnabod yn wrthrychol yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r hyn nad ydym yn ei wneud cystal ac sydd angen ei wella. Ond rwy’n credu ei bod braidd yn annheg awgrymu nad oes gan y gwasanaeth iechyd gwladol ddiddordeb mewn dim heblaw trin cyflyrau corfforol pobl neu’r comisiynu iechyd ar wahân. Mae angen i ni weld y person cyfan a thrin y person cyfan a deall, mewn llawer o achosion, y risgiau y maent yn barod i’w cymryd yn deg drostynt eu hunain—nid yw hyn yn ymwneud â chapasiti, ond yn hytrach â dweud bod ganddynt hawl i ddewis beth y maent am ei wneud a’r math o driniaethau y maent am eu cael.
Er enghraifft, mewn gofal dementia, gyda llawer o bobl sydd â dementia, gwyddom fod yna heriau’n ymwneud â deall eu hiechyd corfforol a gwneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu hosgoi ac mewn gwirionedd, fod y person sydd â chyfrifoldeb am eu gofal yn gweld y person cyfan, yn deall eu hanghenion corfforol a’u hanghenion iechyd meddwl yn ogystal. Pan fyddwch yn edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda rhanddeiliaid a fydd yn arwain at y cynllun cyflawni nesaf, y byddaf yn falch o’i lansio ar 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fe welwch fod yna gydnabyddiaeth wych i’r ffaith fod iechyd corfforol ac iechyd meddyliol a lles pobl wedi’u cysylltu’n annatod ac ynghlwm wrth ei gilydd.
Gwelwn hynny mewn amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud yn y Llywodraeth. Er enghraifft, Cymru Iach ar Waith. Rwyf wedi bod â diddordeb mawr mewn cyflwyno’r gwobrau, nid yn unig oherwydd fy mod yn hoff o ddangos fy wyneb a chael fy llun wedi’i dynnu, ond mewn gwirionedd, rydych yn clywed gwahanol straeon gan wahanol gyflogwyr—cyflogwyr bach, canolig a mawr—a cheir teimlad go iawn, yn y gwaith y maent yn ei wneud gyda ni, eu bod yn cydnabod yr heriau iechyd meddwl a’r heriau lles sy’n wynebu eu gweithlu ac yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i wella hynny. Felly, mae’n rhywbeth rwy’n ei weld yn fwyfwy aml ac rwy’n disgwyl ei weld yn fwy cyson yn y gwaith a wnawn ac yn y rhaglenni a ariannwn. Felly, nid mater o edrych ar un llinell o’r gyllideb i weld lle mae iechyd meddwl yw hyn—mae’n llawer ehangach na hynny, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld hynny’n gynyddol drwy’r gwasanaeth iechyd gwladol.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ragweld bod nifer y bobl 65 oed a hŷn yn mynd i gynyddu 44 y cant yn y degawdau i ddod, rhaid i ni sicrhau y gall ein sector gofal cymdeithasol ymdopi â’r cynnydd anochel yn y galw am ofal cymdeithasol. Yn anffodus, gwelsom doriadau enfawr yn y cyllidebau gofal cymdeithasol ac yn syml, nid ydym yn hyfforddi digon o weithwyr gofal cymdeithasol, neu mae llawer o’r rhai rydym wedi’u hyfforddi eisoes yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gormod o waith, ac mewn sawl achos, nid ydynt yn cael digon o amser i ofalu’n briodol am y bobl sy’n rhaid iddynt ofalu amdanynt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hariannu’n ddigonol ac i sicrhau bod gennym ddigon o staff i ganiatáu amser i’n gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig allu gofalu?
Diolch am y cwestiwn. Mewn gwirionedd rwy’n falch pan fydd gofal cymdeithasol yn cael ei grybwyll yn y cwestiynau hyn. Mae’n hawdd iawn gwneud dim mwy na siarad am y gwasanaeth iechyd a meddygon yn benodol yn y gyfres hon o gwestiynau. Nid wyf yn rhannu eich awgrym fod gofal cymdeithasol wedi dioddef toriadau enfawr yng Nghymru. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Cafwyd toriadau enfawr yn Lloegr, ac os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yma yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa lawer iawn gwell—nid yn unig o ran y cyllid, gan fod cyllid, rwy’n meddwl, 7 y cant y pen yn uwch ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag yn Lloegr, ond yn y ffordd rydym yn gweld y gwasanaeth cyfan: y ffordd rydym yn ei ariannu, a sut rydym yn ceisio ei drefnu. Dyna pam y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddangosydd mor bwysig o’r cynnydd. Rydym yn gweld bod angen i iechyd a gofal cymdeithasol weithio mwyfwy gyda’i gilydd—nid oherwydd bod mwy o angen a mwy o alw i’w weld, ond am ein bod yn credu bod pobl yn cael gwasanaeth gwell gyda gwell canlyniadau mewn gwirionedd.
Sut y mae’r bobl hynny’n cydweithredu ac yn gweithio gyda’i gilydd? Dyna pam y bydd y Gweinidog yn nodi, yn gynyddol, dros weddill y tymor hwn, sut y byddwn yn gweithredu’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, meysydd gorfodol ar gyfer cydwethio, a’r meysydd lle rydym yn annog pobl i gydweithio hefyd. Os ydych eisiau meddwl am y gweithlu hefyd, mae’n iawn dweud bod hwn yn broffesiwn sydd dan gryn dipyn o bwysau. Nid yw’n waith hawdd ac yn aml, caiff gweithwyr cymdeithasol eu portreadu fel y bobl ddrwg pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mewn gwirionedd, mae angen mwy o bobl i werthfawrogi’r proffesiwn a chydnabod yr hyn y gallant ei wneud i helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd fel teulu, i wneud dewisiadau gyda’i gilydd, ac i helpu pobl i oresgyn rhannau anodd iawn o’u bywydau.
Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain wedi cydnabod bod yr amgylchedd, yng Nghymru, yn llawer gwell i weithio ynddo na rhannau eraill o’r DU. Dyna’r proffesiwn ei hun yn siarad am realiti gweithio yma. Nid yw’n golygu ei bod yn hawdd yng Nghymru, nid yw’n golygu nad oes pwysau, ond yn bendant mae gennym well gwasanaeth a gwell system a gwell ymateb na’r hyn a welwch dros y ffin. Ein her yw sut rydym am barhau i wella, gan gadw mewn cof y gwirionedd anorfod y bydd gennym lai o arian i weithio gydag ef bob blwyddyn dros dymor y Cynulliad hwn.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cyflwyno newidiadau enfawr i’r sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan safonau hyfforddiant gorfodol yn awr. Ar hyn o bryd mae yna lawer sy’n gweithio yn y sector gofal cartref yn debygol o fod angen hyfforddiant sylweddol er mwyn cyrraedd y safonau hyfforddi newydd. Hefyd, ceir prinder gweithwyr gofal cymdeithasol, yn enwedig ym maes gofal cartref. Pa waith ar gynllunio’r gweithlu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym ddigon o leoedd hyfforddiant ar gael i ateb y galw a’n bod yn recriwtio a chadw staff mewn niferoedd digonol i ateb anghenion y sector yn y dyfodol?
Rwyf wrth fy modd yn eich clywed yn sôn am y Bil rheoleiddio ac arolygu, sef Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 bellach, sy’n cael ei chyflwyno gan y Gweinidog ac yn wir, y gwaith y mae’n bwrw ymlaen ag ef ar ddeall anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar y gweill ac rwy’n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed diweddariadau pellach gan y Gweinidog maes o law. Os ydych am ddeall y manylion, rwy’n siŵr y byddai’n hapus i gyfarfod â chi.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heb y traean o filiwn a mwy o ofalwyr di-dâl, byddai ein sector gofal cymdeithasol wedi ei orlwytho’n aruthrol. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr nad yw 30 y cant o ofalwyr yn cymryd unrhyw seibiant, a bod 65 y cant o ofalwyr yn treulio’r ychydig seibiant a gânt yn gwneud gwaith tŷ. Mae angen seibiant rheolaidd ar ofalwyr os ydynt i gadw’n iach ac i allu parhau i ddarparu gofal. Heb seibiant, mae perygl i iechyd a lles gofalwyr a mwy o debygolrwydd y bydd y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty neu ofal preswyl. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn galw am sefydlu cronfa les i ofalwyr yng Nghymru i ddarparu seibiant i ofalwyr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa o’r fath? Wedi’r cyfan, mae’n bris bach i’w dalu o ystyried yr arbedion y mae 370,000 o ofalwyr Cymru yn eu sicrhau i’n GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn.
Rwy’n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y gwerth sylweddol y mae gofalwyr yn ei roi, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran eu gallu i ddarparu gofal gan anwyliaid neu rywun y mae’r sawl sy’n derbyn gofal yn eu hadnabod. Bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon, wrth gwrs, wedi cael profiad o fod yn ofalwyr i ffrindiau a/neu aelodau o’r teulu. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod, rwy’n gobeithio, mai’r Gweinidog yw’r Gweinidog arweiniol ar gyfer gofalwyr ac yn wir, gan ei bod yn symud ymlaen ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’r strategaeth gofalwyr o’i mewn, mae yna ddealltwriaeth o’r ffaith fod gan ofalwyr yn awr, am y tro cyntaf, y gallu a’r hawl statudol i gael eu hanghenion hwy hefyd wedi’u hasesu gan y gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwnnw’n gam go iawn ymlaen.
Felly, rwy’n disgwyl bod gofalwyr yng Nghymru—rwy’n sicr yn gobeithio y byddant yn gweld ac yn cydnabod ein bod yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen. Gwn fod Gofalwyr Cymru mewn cysylltiad â’r Gweinidog ac rwy’n siŵr y bydd unrhyw gynigion sydd ganddynt yn cael eu hystyried o ddifrif gan y Gweinidog a minnau wrth i ni geisio deall sut y gallwn wella’r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr ymhellach, er mwyn eu galluogi i gael seibiant, ond i ddeall hefyd fod angen i chi weld y gofalwr a’r person y maent yn gofalu amdanynt fel unigolion a deall yr hyn y maent yn ei olygu gyda’i gilydd, ac i’w gilydd. Ond unwaith eto, os ydych yn dymuno cael trafodaeth fanylach ar hyn, rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn hapus iawn i ddod o hyd i amser i gael y drafodaeth honno gyda chi.