Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 5 Hydref 2016.
Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y llefydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mangor a rhannau eraill o Gymru. Byddwn yn croesawu unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru—a byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth a chynnig fy nghydweithrediad—ar fater cynyddu llefydd hyfforddiant meddygol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ar sawl achlysur, wedi dweud bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon ymgynghorol a meddygon yng Nghymru. Rydym wedi edrych ymhellach ar yr ystadegau hyn. O’r 65 maes arbenigol ysbyty sydd â data ar StatsCymru, mae 32 ohonynt wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 13 ohonynt heb weld unrhyw newid, ac mae 20 ohonynt wedi gweld rhywfaint o gynnydd. Yr unig reswm y mae un o’r rheini, llawfeddygaeth fasgwlaidd, wedi gweld cynnydd yw oherwydd ei fod bellach yn cael ei gyfrif fel arbenigedd ar wahân yn hytrach na chael ei restru fel llawfeddygaeth gyffredinol. Felly, mae’n parhau i fod yn ffaith fod mwy o feysydd arbenigol wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd na sydd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd. A ydych yn fodlon gyda’r sefyllfa honno?