<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:34, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng 2009 a 2014, roedd gwariant y GIG ar iechyd meddwl yn amrywio o 11.4 y cant i 11.9 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Nawr, o gofio bod llinellau cyllideb iechyd meddwl yn cynnwys popeth o wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i ddementia, anhwylderau seicotig, gwasanaethau amenedigol, iselder a gorbryder, a ydych yn credu bod gwario 12 y cant o gyllideb y GIG yn ei chyfanrwydd ar iechyd meddwl, gydag 88 y cant yn cael ei wario ar iechyd corfforol, yn gydbwysedd cywir?