Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ragweld bod nifer y bobl 65 oed a hŷn yn mynd i gynyddu 44 y cant yn y degawdau i ddod, rhaid i ni sicrhau y gall ein sector gofal cymdeithasol ymdopi â’r cynnydd anochel yn y galw am ofal cymdeithasol. Yn anffodus, gwelsom doriadau enfawr yn y cyllidebau gofal cymdeithasol ac yn syml, nid ydym yn hyfforddi digon o weithwyr gofal cymdeithasol, neu mae llawer o’r rhai rydym wedi’u hyfforddi eisoes yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gormod o waith, ac mewn sawl achos, nid ydynt yn cael digon o amser i ofalu’n briodol am y bobl sy’n rhaid iddynt ofalu amdanynt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hariannu’n ddigonol ac i sicrhau bod gennym ddigon o staff i ganiatáu amser i’n gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig allu gofalu?