Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cyflwyno newidiadau enfawr i’r sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan safonau hyfforddiant gorfodol yn awr. Ar hyn o bryd mae yna lawer sy’n gweithio yn y sector gofal cartref yn debygol o fod angen hyfforddiant sylweddol er mwyn cyrraedd y safonau hyfforddi newydd. Hefyd, ceir prinder gweithwyr gofal cymdeithasol, yn enwedig ym maes gofal cartref. Pa waith ar gynllunio’r gweithlu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym ddigon o leoedd hyfforddiant ar gael i ateb y galw a’n bod yn recriwtio a chadw staff mewn niferoedd digonol i ateb anghenion y sector yn y dyfodol?