Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heb y traean o filiwn a mwy o ofalwyr di-dâl, byddai ein sector gofal cymdeithasol wedi ei orlwytho’n aruthrol. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr nad yw 30 y cant o ofalwyr yn cymryd unrhyw seibiant, a bod 65 y cant o ofalwyr yn treulio’r ychydig seibiant a gânt yn gwneud gwaith tŷ. Mae angen seibiant rheolaidd ar ofalwyr os ydynt i gadw’n iach ac i allu parhau i ddarparu gofal. Heb seibiant, mae perygl i iechyd a lles gofalwyr a mwy o debygolrwydd y bydd y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty neu ofal preswyl. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn galw am sefydlu cronfa les i ofalwyr yng Nghymru i ddarparu seibiant i ofalwyr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa o’r fath? Wedi’r cyfan, mae’n bris bach i’w dalu o ystyried yr arbedion y mae 370,000 o ofalwyr Cymru yn eu sicrhau i’n GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn.