<p>Denu Meddygon i Gymru </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:48, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae prinder meddyg yn effeithio ar bob ardal drwy’r wlad, fel y clywsom eisoes, ond yn y Rhondda, mae gennym broblem arbennig o ddifrifol, sydd wedi peri i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sefydlu gwefan benodol i ddenu meddygon i’n hardal. Er eich bod yn dal i wadu’r hyn y mae’r ystadegau yn dweud, fel y gwelsom yn awr yn eich ateb i fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, gwelwyd gostyngiad o 44 yn nifer y meddygon ysbyty a gyflogid gan Cwm Taf rhwng 2014 a 2015, sef, wrth gwrs, y dyddiad diwethaf y mae gennym ffigurau ar ei gyfer. Mae hon yn golled aruthrol mewn blwyddyn yn unig. Mae nifer y meddygon ysbyty a gyflogir gan Cwm Taf bellach yn is nag yr oedd yn 2009. Rydych wedi dweud o’r blaen fod hon yn nifer fwy nag erioed o feddygon. Ai dyma sut beth yw’r nifer uchaf erioed o feddygon yn y Rhondda? A ydych yn awr yn difaru gwneud y datganiad hwnnw i mi yn gynharach yr haf hwn, neu a ydych yn dal i wadu?