Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at y mater hwn. Deallaf mai enw’r cwmni yw Doctaly ac mae’n gweithredu yn ardal Llundain, ond maent yn bwriadu ehangu. Rwy’n rhannu eich teimladau’n llwyr—nid wyf yn meddwl bod unrhyw le i hyn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Ni fyddai’n rhywbeth y byddem yn ei ariannu neu’n ei annog yma yng Nghymru. Rydym yn credu mewn ethos gwasanaeth cyhoeddus i’n gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Rydym yn cynnal gwerthoedd ac egwyddorion craidd ar gyfer staff ym mhob man, ac nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn annog neu’n cefnogi dulliau o’r fath yma yng Nghymru. Ein her yw sut i wella’r gwasanaeth ar gyfer y boblogaeth gyfan, nid sut i roi mantais i bobl ag arian allu manteisio ymhellach ar system sydd yma i wasanaethu pob un ohonom.