Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r hen fodel gofal sylfaenol mor ddeniadol i lawer o feddygon ifanc, yn enwedig y gost gyfalaf uchel, er enghraifft, sy’n rhaid iddynt ymrwymo iddi mewn partneriaeth. Hefyd, mae llawer o feddygon teulu ifanc eisiau parhau at lefel o arbenigedd ac unwaith eto, oni bai bod yna bractisau mwy o faint, gall hyn fod yn anodd iawn. Mae’n ymddangos i mi fod y ddau faes hwn yn llawn o gyfleoedd i ddatblygu yma yng Nghymru ac yn ei gwneud yn arbennig o ddeniadol i feddygon teulu.