<p>Datblygiad Telefeddygaeth </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:55, 5 Hydref 2016

Diolch. Cwestiwn sydd gen i am yr angen i ddarparwyr band eang sicrhau bod y rheini sydd angen safon uchel o gysylltiad band eang ar gyfer anghenion telefeddygaeth yn ei chael. Rwy’n gwybod am gymuned yn Ynys Môn—cymuned gyfan—sydd heb fand-eang cyflym. Yn eu plith nhw mae yna deulu sydd â’r gŵr wedi cael diagnosis o spinocerebellar ataxia 6, clefyd, rwy’n deall sy’n anghyffredin iawn, efo dim ond rhyw 18 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn dioddef ohono fo, ac sy’n amharu ar ei leferydd o. Mae o’n disgwyl am ddyfais gyfathrebu fydd yn ei helpu fo i roi geiriau at ei gilydd, ond mae’n rhaid cael mynediad da i’r rhyngrwyd er mwyn iddo fo allu defnyddio’r system honno. Rŵan, mae’r gymuned i gyd eisiau cyswllt band llydan. Rydw i’n gwneud beth gallaf i i roi pwysau ar Openreach, ond pa bwysau y gall yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, mewn cydweithrediad, o bosib, â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ei roi ar Openreach i sicrhau eu bod nhw’n edrych eto ar y mater hwn oherwydd bod iechyd unigolyn yn y fantol?