<p>Datblygiad Telefeddygaeth </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn a’r pwynt penodol a grybwyllwyd gennych. Rydym yn cydnabod bod potensial mawr gan deleiechyd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn meddwl ei bod yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau arbenigol i bobl er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal yn agosach at adref. Yn aml, nid oes angen i chi deithio, ac mae hynny’n rhan fawr o’r fantais, ac rydym wedi’i weld ym menter gydweithredol canolbarth Cymru. O ran y pwynt penodol a wnewch, mewn gwirionedd rwy’n cyfarfod â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn nes ymlaen heddiw ac mae gennym ystod o bynciau i’w trafod, a bydd mynediad band eang yn un ohonynt. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym lawer i fod yn falch ohono yn y ffordd rydym yn cyflwyno mynediad band eang ledled Cymru, mewn gwahanol gymunedau, ond mae deall ym mha ardaloedd y mae’n anos cael mynediad ato yn rhan allweddol o’r hyn rydym am ei wneud i sicrhau bod gofal iechyd yn parhau i fod yn gwbl deg ac yn hygyrch yn seiliedig ar angen, yn hytrach nag ar hap yn ddaearyddol. Felly, mae’r rhain yn faterion rydym yn awyddus i gael trafodaeth yn eu cylch i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol i symud pethau yn eu blaen. Os hoffech ysgrifennu ataf gyda manylion am y ddeiseb, byddaf yn hapus i edrych ar hynny a chael y drafodaeth honno gyda chi wedyn.