<p>Datblygiad Telefeddygaeth </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:57, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae telefeddygaeth yn agwedd bwysig o ofal iechyd modern, sy’n helpu i gael y driniaeth a’r diagnosis cywir i’r bobl iawn ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, ond gall hefyd, fel y dywedoch, helpu i leihau’r angen i gleifion fynychu eu meddygfeydd meddygon teulu yn y cnawd mewn ardal anghysbell, neu hyd yn oed i lanio mewn adran ddamweiniau ac achosion brys fel yr unig ddewis sydd ar ôl iddynt. Felly, a gaf fi ofyn iddo, ar y thema honno: a wnaiff ymuno â mi i groesawu’r lansiad, ddoe ddiwethaf, a chyflwyniad newydd y gwasanaeth di-frys 111 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, a chytuno â mi fod hyn hefyd yn rhan o helpu’r cyhoedd i gael mynediad at y lefel fwyaf priodol o ofal ar gyfer eu hanghenion o fewn yr amser iawn, ac y dylai’r gwasanaeth hwn hefyd leihau’r pwysau ar feddygon teulu ac ar adrannau damweiniau ac achosion brys?