<p>Datblygiad Telefeddygaeth </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:59, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiadau diweddar o’r llenyddiaeth wedi cadarnhau bod teleseiciatreg yr un mor effeithiol ag ymgynghoriadau seiciatrig wyneb yn wyneb ar gyfer gwneud asesiad diagnostig, a’i fod cystal, o leiaf, ar gyfer trin anhwylderau megis iselder ac anhwylder straen wedi trawma, a gall fod yn well na thriniaeth wyneb yn wyneb i rai grwpiau o gleifion, yn enwedig plant, cyn-filwyr a rhai sy’n dioddef o agoraffobia. A oes rhywfaint o’ch 12 y cant o fuddsoddiad mewn iechyd meddwl wedi’i ddefnyddio yn y modd hwn?