<p>Datblygiad Telefeddygaeth </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:00, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Pan fyddaf yn edrych ar ddatblygiadau ar gyfer telefeddygaeth a theleiechyd, nid wyf yn ei rannu’n syml yn ôl y llinellau penodol hynny yn y gyllideb. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud a pha seilwaith sydd ei angen i wneud yn siŵr y gall pobl ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Er enghraifft, mewn gofal llygaid, mae gennych angen penodol am gamerâu, ond os ydych yn siarad am fynediad at therapïau siarad, yna mae angen math gwahanol o ddylanwad arnoch, nad yw’n ymwneud yn unig â’r therapi siarad ei hun. Ond rwy’n awyddus i ddeall beth y gallwn ei wneud, pa mor gyflym y gallwn ei wneud a pha mor gyson y gallwn ei wneud er mwyn cyflwyno ymarfer effeithiol. Felly, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y maes hwn ac mewn eraill wrth fwrw ymlaen â thelefeddygaeth yma yng Nghymru.