Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 5 Hydref 2016.
Canfu adroddiad y llynedd gan yr elusen Gofal, sy’n arwain ar iechyd a lles meddyliol yng Nghymru fod 59 y cant o’r ymatebwyr yn barnu bod mynediad at wasanaethau alcohol statudol yn Nhorfaen yn gymedrol, yn wael neu’n wael iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r canlyniadau hyn, ac a wnaiff gytuno bod angen i ni adolygu’r gwasanaethau triniaeth hyn i weld beth y gellir ei wneud i’w gwella yn Nhorfaen a Dwyrain De Cymru?