Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae’n bwysig deall barn y bobl sy’n defnyddio gwasanaeth, o ran yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio hefyd; mae’n rhan bwysig o wella gwasanaethau. Felly, mae angen i ni wrando ar lais defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall yr hyn nad yw’n gweithio. Fe grwpioch chi’r bobl hynny sy’n ystyried bod y gwasanaeth yn gymedrol, gyda’r rhai sy’n ei ystyried yn llai na chymedrol. Felly, ni fyddwn yn meddwl bod y ffigur canrannol cychwynnol yn adlewyrchiad hollol deg o ansawdd y gwasanaeth, ond byddwn yn disgwyl i’r bwrdd iechyd a’u partneriaid—gan fod llawer o’r ddarpariaeth hon yn digwydd gyda phartneriaid trydydd sector—edrych yn feirniadol ar lais y defnyddiwr a deall beth fydd angen iddynt ei wneud i weithio gyda’r defnyddiwr er mwyn deall sut y gallant wella’r gwasanaeth.