Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 5 Hydref 2016.
Wel, Lee, nid wyf yn gwybod os ydych wedi sylwi ar y cynlluniau ar gyfer y rheilffordd, ond mewn gwirionedd mae’n rhedeg yn Lloegr, nid yng Nghymru. [Torri ar draws.] Byddaf yn dod at y pwynt ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar Gymru os rhowch amser i mi gyrraedd yno. Diolch.
Mae yna lawer hefyd sy’n dadlau mai’r ffordd i sicrhau’r cysylltedd gorau yw trwy wella rheilffyrdd presennol ac adeiladu nifer o reilffyrdd traws gwlad newydd neu hyd yn oed ailagor hen reilffyrdd traws gwlad. Byddai’r rhain, ynghyd ag uwchraddio’r cerbydau, yn lleddfu llawer o’r problemau presennol gyda chynhwysedd i deithwyr—y cyfan am ffracsiwn o gost HS2.
Yn ei adroddiad yn 2014, dadleuodd Syr Patrick McLoughlin mai’r trên o Lundain i Crewe oedd y prysuraf ym Mhrydain, gan arwain at orlenwi cronig. Fodd bynnag, erbyn adeg cyhoeddi’r adroddiad, roedd y broblem wedi’i datrys yn syml drwy ychwanegu pedwar cerbyd arall at y trenau presennol. Gyda rhaglen o estyniadau i blatfformau, mae arbenigwyr yn dadlau y gellid ychwanegu cerbydau at lawer o’n llinellau rheilffordd prysuraf eraill.
Mae cynigwyr y cynllun yn dadlau bod HS2 yn ymwneud lawn cymaint â chynhwysedd ag â chyflymder—mae trenau cyflymach yn golygu mwy o drenau. Yn wir, dyma oedd byrdwn dadl Chris Grayling ar raglen ‘Sunday Politics’ mor ddiweddar â ddydd Sul diwethaf. Pan bwyswyd arno, fodd bynnag, am ddyddiad cyflwyno a chost, roedd yn hynod o amharod i ateb, gan ddweud y byddai’r cynllun wedi’i gwblhau ar ryw adeg yn ystod y degawd nesaf.
Diben y ddadl am fwy o gynhwysedd yw taro’n ôl yn erbyn dadleuon gan arbenigwyr technegol fod llawer o’r tir rhwng Llundain a gogledd Lloegr yn anaddas ar gyfer trac cyflym heb wneud cryn dipyn o waith cryfhau ar y sylfaen. Byddai gwaith o’r fath unwaith eto yn ychwanegu biliynau at y costau adeiladu. Heb y gwelliannau hyn i’r sylfaen, byddai’n rhaid cyfyngu ar gyflymder trenau i oddeutu 150 milltir yr awr dros sawl rhan o’r rheilffordd.
Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu HS2 hefyd yn dadlau, yn ychwanegol at y rhai a nodir uchod, fod llawer o ffyrdd eraill o ychwanegu at gynhwysedd rheilffyrdd. Un argymhelliad yw cael gwared ar gerbydau dosbarth cyntaf, sydd, ar gyfartaledd, yn rhedeg ar 10 y cant o’u cynhwysedd yn unig. Wel, rwy’n gobeithio y byddai hwnnw’n ateb y byddwn yn rhagweld y byddai’n cael ei gymeradwyo’n fawr gan y ddwy blaid sosialaidd yn y Siambr hon. Yn ogystal, gyda gwelliannau addas i’r seilwaith, gellir cynyddu cynhwysedd yn sylweddol yn syml drwy ychwanegu mwy o gerbydau. Mae technolegau digidol yn caniatáu ar gyfer galluoedd signal datblygedig, ac yn ogystal â nodweddion diogelwch ar y trên, yn enwedig cyfathrebiadau rhwng y gyrrwr a’r ganolfan reoli, byddant yn caniatáu ar gyfer trenau amlach, gan y gellid lleihau pellteroedd rhwng trenau yn sylweddol heb golli diogelwch. Byddai’r gwelliannau a nodwyd uchod o’u cymhwyso ar gyfer rhwydwaith y DU yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Cymru wrth gwrs, yn llawer rhatach ac yn llawer mwy effeithiol nag un cysylltiad cyflym costus rhwng Llundain a’r gogledd.
Ac yn awr, a gaf fi droi at gysylltiad Cymru? [Torri ar draws.] A gaf fi droi at gysylltiad Cymru, neu a ddylwn i ddweud ‘diffyg cysylltiad’ â’r prosiect HS2 hwn? Mae ACau Plaid Cymru yn honni eu bod wedi sicrhau £84 miliwn ychwanegol i gyllideb drafnidiaeth Cymru, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb drafnidiaeth ar gyfer HS2, gan honni hefyd, gyda llaw, na neidiodd y Blaid Lafur ar y wagen, os maddeuwch y gair mwys, hyd nes yn hwyr iawn yn y dydd. Er mor ganmoladwy yw’r cyflawniad hwn, nid yw ond yn arwydd o’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn derbyn nid yn unig nad yw prosiect HS2 o fudd i economi Cymru, ond mewn gwirionedd ei fod yn niweidiol iddi.
Mae rhai sylwebyddion yn dweud bod yr effaith negyddol hon dros oes y rheilffordd oddeutu £4 biliwn—ffigwr y dadleuant y dylid ei ychwanegu, ynghyd â’r effaith niweidiol o £1.4 biliwn i economi Gogledd Iwerddon, at gost gyffredinol HS2. Hynny yw, wrth gwrs, os yw’r ffigur iawndal hwn i’w dalu fel y dylai i’r ddwy Lywodraeth ddatganoledig.
Mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi bod yn simsanu dros y prosiect hwn byth ers iddo gael ei ystyried gyntaf, gyda Phlaid Cymru â’r ddeuoliaeth o gael eu Haelodau Seneddol yn pleidleisio yn erbyn HS2. Y ffaith amdani yw bod Plaid Cymru a Llafur i’w gweld yn nodi’r taliad canlyniadol fel y rheswm dros gefnogi’r prosiect hwn. Dau bwynt yn unig ar y mater hwnnw: dylai taliadau canlyniadol gael eu gwneud—a byddent yn cael eu gwneud—ar gyfer unrhyw gynnydd yn nyraniad y Llywodraeth i’r gyllideb drafnidiaeth, waeth ble y gwerid y cynnydd hwnnw. Felly, pe bai’r Llywodraeth yn dewis gwario’r cynnydd yn y gyllideb HS2 ar wella’r rhwydwaith rheilffyrdd yn gyffredinol, gallem ddal i ddisgwyl cael y taliad canlyniadol hwn—oni bai bod Plaid Cymru a Llafur, wrth gwrs, yn dosbarthu’r taliad canlyniadol hwn fel taliad digolledu. Byddai taliad digolledu, wrth gwrs, yn briodol, gan fod llawer o adroddiadau, gan gynnwys dau gan KPMG, un ar gyfer HS2 Ltd ei hun ac un ar gyfer y BBC hefyd, wedi amcangyfrif bod y gost negyddol i economi Cymru oddeutu £200 miliwn y flwyddyn.
Fel y nodwyd uchod, ni fydd unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng HS2 a Chymru, nid i’r de, nid i’r canolbarth nac i’r gogledd. Yn wir, y ddinas sy’n dylanwadu fwyaf yn ôl pob tebyg ar economi gogledd Cymru, oni bai ein bod diystyru Crewe yma, yw Lerpwl ei hun. Ni fydd gan Lerpwl ei hun unrhyw gysylltiad uniongyrchol â HS2, a deallir bod system metro Lerpwl wedi dod i stop 40 mlynedd yn ôl oherwydd diffyg cyllid, gyda 4.5 milltir o dwneli heb drac na threnau. A yw ein cynlluniau metro uchelgeisiol i ddod i stop yn yr un modd drwy ddiffyg cyllid Llywodraeth y DU, wrth i gostau HS2 esgyn allan o reolaeth, costau sydd eisoes wedi codi o £17 biliwn yn 2013 i’r amcangyfrifon presennol o £55 biliwn? Nid yn unig hynny, ond byddai’n rhaid i unrhyw welliannau seilwaith rheilffyrdd a gynlluniwyd ar gyfer Cymru gystadlu am y gweithlu medrus a’r cyfarpar a fyddai’n cael eu sugno’n anochel i mewn i brosiect mor enfawr â HS2. Gadewch i ni atgoffa ein hunain y byddai ffracsiwn yn unig o’r £55 biliwn a mwy nid yn unig yn caniatáu i ni drydaneiddio i Abertawe, ond i Gaerfyrddin hyd yn oed. Byddai hefyd yn ein galluogi i drydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd de Cymru ac yn caniatáu ar gyfer llawer o seilwaith gwell, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffordd sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.
I gloi, rwy’n dweud wrthych na fydd HS2 o fudd i economi Cymru. Yn wir mae’n niweidiol iddi. Felly, os ydych yn credu o ddifrif mewn economi ffyniannus a chynhyrchiol i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ni allwch ond cefnogi’r cynnig hwn.