7. 6. Dadl UKIP Cymru: HS2 a’r Rhwydwaith Rheilffordd yng Nghymru

– Senedd Cymru ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at ein heitem nesaf ar yr agenda, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar HS2 a’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a galwaf ar David Rowlands i gynnig y cynnig. David.

Cynnig NDM6110 Neil Hamilton

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid rhoi’r gorau i’r prosiect HS2 a defnyddio’r arbedion cyfalaf i wella’r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:

(a) ariannu’r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a

(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:15, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, fadam Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig hwn yn enw Neil Hamilton.

Rydym yn cynnig y cynnig y dylid rhoi’r gorau i HS2 a defnyddio’r arbedion sy’n deillio o hynny i wella’r rhwydwaith presennol drwy’r DU gyfan, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. Rydym yn dadlau nad yw’n rhy hwyr i roi diwedd ar y prosiect hwn a allai fod yn drychinebus oherwydd, er bod £2 biliwn eisoes wedi ei wario, nid oes un dywarchen wedi’i thorri eto.

Mae HS2 yn ddull o deithio a gynlluniwyd i gludo dynion busnes mwythlyd o Lundain i rai o ddinasoedd y gogledd ar gost o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Prydain—£55 biliwn yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, ond mae’n codi’n gyflym. Yn ogystal, mae’r gost ddynol ac amgylcheddol yn anfesuradwy yn yr ystyr fod y prosiect hwn yn galw am ddinistrio o leiaf 58 o ffermydd a miloedd o gartrefi teuluol. Mewn gwirionedd, bydd y newid arfaethedig i’r llwybr ger Sheffield yn galw am ddinistrio ystad gyfan o dai, sydd ar yr union eiliad hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Mae’r cyfan yn eironig iawn o ystyried ein bod yng nghanol prinder tai trychinebus, gan gynnwys yn Sheffield ei hun, gyda 28,000 ar eu rhestr aros am dai cymdeithasol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:15, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r ffaith fod HS2 wedi ei gynllunio i weithredu ar 240 mya yn hytrach na gweithredu, fel y trenau cyflymder uchel cyfandirol arferol, ar 190 mya ynddo’i hun yn niweidiol i’r amgylchedd, gan ei fod yn cynyddu gollyngiadau carbon dros 20 y cant, gan dynnu tair munud a hanner yn unig oddi ar yr amser rhwng Llundain a Birmingham.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hun wedi beirniadu’r cynllun, gan ddadlau bod llawer o’r dadleuon cost a budd eisoes yn cael eu herydu gan oedi a chyllidebau cynyddol. Maent hefyd yn dweud bod yr amserlenni ar gyfer cwblhau yn afrealistig, gyda 2026 o Lundain i Birmingham, 2027 i Crewe a 2033 i Fanceinion a Leeds bron yn amhosibl eu cyflawni. Ychwanegwch at hyn farn llawer o academyddion ym maes trafnidiaeth rheilffyrdd y gallai niweidio economïau trefi fel Nottingham, Stockport a Wakefield, yn hytrach na’u helpu, gan ei fod yn niweidio cysylltedd â chytrefi mwy o faint y rhanbarth mewn gwirionedd.

Roedd Richard Wellings y Sefydliad Materion Economaidd hyd yn oed yn cwestiynu cywirdeb yr honiadau y byddai’n trawsnewid economi’r rhanbarthau lle y byddai HS2 yn cysylltu’n fwyaf uniongyrchol. Felly, pa obaith y bydd unrhyw ran o Gymru yn cael manteision economaidd sylweddol? Defnyddiwyd llawer o ddadleuon arwynebol i hyrwyddo’r hyn na ellir ei alw’n ddim mwy na phrosiect porthi balchder gan Lywodraeth y DU. A dyma rai ohonynt yn unig: bydd HS2 yn creu mwy o gysylltedd rhwng y gogledd a’r de, a thrwy hynny’n creu manteision economaidd enfawr i’r rhanbarthau gogleddol. Ond mae gwrthwynebwyr yn dadlau na fydd ond yn ei gwneud yn haws i’r mwyaf disglair a’r gorau o ddinasoedd fel Manceinion, Leeds a Hull gymudo i swyddi sy’n talu’n well yn Llundain, a fyddai, wrth gwrs, yn effeithio’n niweidiol drwy golli rhai o dalentau gorau’r rhanbarth a’r golled i’r economi leol yn sgil hynny.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:19, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs, Lee.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Gyda phob parch, David, brynhawn ddoe fe foicotiodd eich plaid y Cynulliad oherwydd eich bod yn dweud ein bod yn cael dadl ofer. Hyd yma yn y ddadl hon, nid ydych wedi siarad am ddim heblaw Lloegr. Felly, mae’r hyn sy’n iawn i’r ŵydd yn iawn i’r ceiliagwydd hefyd. [Chwerthin.]

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, Lee, nid wyf yn gwybod os ydych wedi sylwi ar y cynlluniau ar gyfer y rheilffordd, ond mewn gwirionedd mae’n rhedeg yn Lloegr, nid yng Nghymru. [Torri ar draws.] Byddaf yn dod at y pwynt ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar Gymru os rhowch amser i mi gyrraedd yno. Diolch.

Mae yna lawer hefyd sy’n dadlau mai’r ffordd i sicrhau’r cysylltedd gorau yw trwy wella rheilffyrdd presennol ac adeiladu nifer o reilffyrdd traws gwlad newydd neu hyd yn oed ailagor hen reilffyrdd traws gwlad. Byddai’r rhain, ynghyd ag uwchraddio’r cerbydau, yn lleddfu llawer o’r problemau presennol gyda chynhwysedd i deithwyr—y cyfan am ffracsiwn o gost HS2.

Yn ei adroddiad yn 2014, dadleuodd Syr Patrick McLoughlin mai’r trên o Lundain i Crewe oedd y prysuraf ym Mhrydain, gan arwain at orlenwi cronig. Fodd bynnag, erbyn adeg cyhoeddi’r adroddiad, roedd y broblem wedi’i datrys yn syml drwy ychwanegu pedwar cerbyd arall at y trenau presennol. Gyda rhaglen o estyniadau i blatfformau, mae arbenigwyr yn dadlau y gellid ychwanegu cerbydau at lawer o’n llinellau rheilffordd prysuraf eraill.

Mae cynigwyr y cynllun yn dadlau bod HS2 yn ymwneud lawn cymaint â chynhwysedd ag â chyflymder—mae trenau cyflymach yn golygu mwy o drenau. Yn wir, dyma oedd byrdwn dadl Chris Grayling ar raglen ‘Sunday Politics’ mor ddiweddar â ddydd Sul diwethaf. Pan bwyswyd arno, fodd bynnag, am ddyddiad cyflwyno a chost, roedd yn hynod o amharod i ateb, gan ddweud y byddai’r cynllun wedi’i gwblhau ar ryw adeg yn ystod y degawd nesaf.

Diben y ddadl am fwy o gynhwysedd yw taro’n ôl yn erbyn dadleuon gan arbenigwyr technegol fod llawer o’r tir rhwng Llundain a gogledd Lloegr yn anaddas ar gyfer trac cyflym heb wneud cryn dipyn o waith cryfhau ar y sylfaen. Byddai gwaith o’r fath unwaith eto yn ychwanegu biliynau at y costau adeiladu. Heb y gwelliannau hyn i’r sylfaen, byddai’n rhaid cyfyngu ar gyflymder trenau i oddeutu 150 milltir yr awr dros sawl rhan o’r rheilffordd.

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu HS2 hefyd yn dadlau, yn ychwanegol at y rhai a nodir uchod, fod llawer o ffyrdd eraill o ychwanegu at gynhwysedd rheilffyrdd. Un argymhelliad yw cael gwared ar gerbydau dosbarth cyntaf, sydd, ar gyfartaledd, yn rhedeg ar 10 y cant o’u cynhwysedd yn unig. Wel, rwy’n gobeithio y byddai hwnnw’n ateb y byddwn yn rhagweld y byddai’n cael ei gymeradwyo’n fawr gan y ddwy blaid sosialaidd yn y Siambr hon. Yn ogystal, gyda gwelliannau addas i’r seilwaith, gellir cynyddu cynhwysedd yn sylweddol yn syml drwy ychwanegu mwy o gerbydau. Mae technolegau digidol yn caniatáu ar gyfer galluoedd signal datblygedig, ac yn ogystal â nodweddion diogelwch ar y trên, yn enwedig cyfathrebiadau rhwng y gyrrwr a’r ganolfan reoli, byddant yn caniatáu ar gyfer trenau amlach, gan y gellid lleihau pellteroedd rhwng trenau yn sylweddol heb golli diogelwch. Byddai’r gwelliannau a nodwyd uchod o’u cymhwyso ar gyfer rhwydwaith y DU yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Cymru wrth gwrs, yn llawer rhatach ac yn llawer mwy effeithiol nag un cysylltiad cyflym costus rhwng Llundain a’r gogledd.

Ac yn awr, a gaf fi droi at gysylltiad Cymru? [Torri ar draws.] A gaf fi droi at gysylltiad Cymru, neu a ddylwn i ddweud ‘diffyg cysylltiad’ â’r prosiect HS2 hwn? Mae ACau Plaid Cymru yn honni eu bod wedi sicrhau £84 miliwn ychwanegol i gyllideb drafnidiaeth Cymru, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb drafnidiaeth ar gyfer HS2, gan honni hefyd, gyda llaw, na neidiodd y Blaid Lafur ar y wagen, os maddeuwch y gair mwys, hyd nes yn hwyr iawn yn y dydd. Er mor ganmoladwy yw’r cyflawniad hwn, nid yw ond yn arwydd o’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn derbyn nid yn unig nad yw prosiect HS2 o fudd i economi Cymru, ond mewn gwirionedd ei fod yn niweidiol iddi.

Mae rhai sylwebyddion yn dweud bod yr effaith negyddol hon dros oes y rheilffordd oddeutu £4 biliwn—ffigwr y dadleuant y dylid ei ychwanegu, ynghyd â’r effaith niweidiol o £1.4 biliwn i economi Gogledd Iwerddon, at gost gyffredinol HS2. Hynny yw, wrth gwrs, os yw’r ffigur iawndal hwn i’w dalu fel y dylai i’r ddwy Lywodraeth ddatganoledig.

Mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi bod yn simsanu dros y prosiect hwn byth ers iddo gael ei ystyried gyntaf, gyda Phlaid Cymru â’r ddeuoliaeth o gael eu Haelodau Seneddol yn pleidleisio yn erbyn HS2. Y ffaith amdani yw bod Plaid Cymru a Llafur i’w gweld yn nodi’r taliad canlyniadol fel y rheswm dros gefnogi’r prosiect hwn. Dau bwynt yn unig ar y mater hwnnw: dylai taliadau canlyniadol gael eu gwneud—a byddent yn cael eu gwneud—ar gyfer unrhyw gynnydd yn nyraniad y Llywodraeth i’r gyllideb drafnidiaeth, waeth ble y gwerid y cynnydd hwnnw. Felly, pe bai’r Llywodraeth yn dewis gwario’r cynnydd yn y gyllideb HS2 ar wella’r rhwydwaith rheilffyrdd yn gyffredinol, gallem ddal i ddisgwyl cael y taliad canlyniadol hwn—oni bai bod Plaid Cymru a Llafur, wrth gwrs, yn dosbarthu’r taliad canlyniadol hwn fel taliad digolledu. Byddai taliad digolledu, wrth gwrs, yn briodol, gan fod llawer o adroddiadau, gan gynnwys dau gan KPMG, un ar gyfer HS2 Ltd ei hun ac un ar gyfer y BBC hefyd, wedi amcangyfrif bod y gost negyddol i economi Cymru oddeutu £200 miliwn y flwyddyn.

Fel y nodwyd uchod, ni fydd unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng HS2 a Chymru, nid i’r de, nid i’r canolbarth nac i’r gogledd. Yn wir, y ddinas sy’n dylanwadu fwyaf yn ôl pob tebyg ar economi gogledd Cymru, oni bai ein bod diystyru Crewe yma, yw Lerpwl ei hun. Ni fydd gan Lerpwl ei hun unrhyw gysylltiad uniongyrchol â HS2, a deallir bod system metro Lerpwl wedi dod i stop 40 mlynedd yn ôl oherwydd diffyg cyllid, gyda 4.5 milltir o dwneli heb drac na threnau. A yw ein cynlluniau metro uchelgeisiol i ddod i stop yn yr un modd drwy ddiffyg cyllid Llywodraeth y DU, wrth i gostau HS2 esgyn allan o reolaeth, costau sydd eisoes wedi codi o £17 biliwn yn 2013 i’r amcangyfrifon presennol o £55 biliwn? Nid yn unig hynny, ond byddai’n rhaid i unrhyw welliannau seilwaith rheilffyrdd a gynlluniwyd ar gyfer Cymru gystadlu am y gweithlu medrus a’r cyfarpar a fyddai’n cael eu sugno’n anochel i mewn i brosiect mor enfawr â HS2. Gadewch i ni atgoffa ein hunain y byddai ffracsiwn yn unig o’r £55 biliwn a mwy nid yn unig yn caniatáu i ni drydaneiddio i Abertawe, ond i Gaerfyrddin hyd yn oed. Byddai hefyd yn ein galluogi i drydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd de Cymru ac yn caniatáu ar gyfer llawer o seilwaith gwell, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffordd sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.

I gloi, rwy’n dweud wrthych na fydd HS2 o fudd i economi Cymru. Yn wir mae’n niweidiol iddi. Felly, os ydych yn credu o ddifrif mewn economi ffyniannus a chynhyrchiol i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ni allwch ond cefnogi’r cynnig hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 5 Hydref 2016

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rwy’n galw ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:28, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies ac wrth wneud hynny, rwy’n nodi fy siom fod UKIP wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Mae’n ymddangos bod yna fethiant i gydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd y bydd HS2 yn eu dwyn i bobl canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig. Mae gwrthod y cynllun a fydd yn asgwrn cefn, rwy’n meddwl, i rwydwaith rheilffyrdd y DU yn dangos y diffyg uchelgais sydd gennych yn UKIP ar gyfer y DU ac wrth gwrs, ar gyfer Cymru hefyd.

Hefyd, rwy’n ymwybodol fod rhai aelodau o’r grŵp UKIP yma yn cefnogi’r cynllun, cyn iddynt ymuno ag UKIP o leiaf—. Nodaf yma ddyfyniad gan Mark Reckless: ‘yn falch o bleidleisio dros HS2’ a gwneud yr ‘achos cadarnhaol’ dros y fenter, gan ychwanegu bod yr amcangyfrifon yn ‘hynod o geidwadol’. Wrth gwrs, aeth Mark Reckless ymlaen hefyd i gynhyrchu blog sydd, mewn gwirionedd, yn manylu ar ei gefnogaeth, ond rwy’n derbyn nad yw UKIP yn defnyddio’r chwip ar eu grŵp, felly edrychaf ymlaen at weld Mark Reckless yn gwrthod y cynnig ac yn cefnogi ein gwelliannau yn nes ymlaen.

Nawr, dywedir wrthym, wrth gwrs, y bydd HS2 yn agor yn 2026. Bydd HS2 yn gwasanaethu’r trefi a’r dinasoedd allweddol ledled Lloegr, a hefyd, wrth gwrs, yn rhedeg i fyny i’r Alban hefyd. Ond drwy ddarparu—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:29, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ar gyfer y cofnod, roeddwn wedi gweld lle i’r HS2 gefnogi economi Rochester a Stroud ar yr adeg yr addawyd cysylltiad ar draws Llundain i fynd â threnau uniongyrchol o Ebbsfleet i Manceinion a Birmingham. Tynnwyd hynny allan o’r prosiect wedyn, a thynnais fy nghefnogaeth yn ôl a chytuno gyda fy nghyd-Aelod na fyddai o fudd i economi Cymru.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:30, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

O, iawn. Wel, mae gennyf eich blog o fy mlaen yma, ond mae’n gwrthddweud rhai o’r pwyntiau a wnaeth eich cyd-Aelod, sy’n eistedd wrth eich ymyl, yn llwyr. Efallai y gwnaf ei drosglwyddo i David Rowlands i’w ddarllen ychydig yn nes ymlaen.

Nawr, ble roeddwn i? Ble roeddwn i? Iawn. Bydd hyd yn oed y bobl nad ydynt yn defnyddio trenau yn elwa hefyd wrth gwrs, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae yna fanteision, wrth gwrs, i greu swyddi a phrentisiaethau, a grëwyd yng nghanolfan HS2 yn Crewe, ac wrth gwrs, y cysylltiadau gwell a ddaw i ogledd a chanolbarth Cymru yn ei sgil.

Yn ddiweddar cawsom ddadl yn y Siambr hon am y cyfleoedd a’r heriau o gydweithredu’n drawsffiniol a’r angen i wella cysylltedd rhwng gogledd Cymru a’r pwerdy sy’n dod i’r amlwg yng ngogledd Lloegr. Efallai nad oedd Aelodau UKIP yn bresennol ar gyfer y ddadl, ond o’r hyn a gofiaf, cafwyd cytundeb cyffredinol yn y Siambr fod gennym botensial, drwy gadarnhau gogledd Cymru fel rhan hanfodol o’r rhanbarth economaidd newydd sydd eisoes yn bodoli, i hwyluso twf sylweddol yng nghanolbarth Cymru, ac i ailgydbwyso economi Cymru yn ogystal, sy’n bwysig, rwy’n meddwl, i ffwrdd rhag gorddibyniaeth ar Gaerdydd a de Cymru.

Yn olaf, wrth gwrs, y mater arall yw hwn: rwy’n credu ei bod yn bwysig, wrth gwrs, fod angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth y DU a chyrff rhanbarthol eraill hefyd i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl gogledd Cymru. Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar hynny yn ei gyfraniad efallai, ond rwy’n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn heddiw ac i gefnogi ein gwelliannau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:32, 5 Hydref 2016

Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

(a) i gyhoeddi amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;

(b) i ariannu’n llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y de;

(c) i warantu holl arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; a

(d) i gychwyn trafodaethau ar drosglwyddo’r cyllid a’r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu mai prosiect seilwaith i Loegr yn unig yw prosiect HS2 ac y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol Barnett sy’n adlewyrchu hyn.

2. Yn credu y dylai’r cyllid a dderbynnir fel cyllid canlyniadol Barnett gael ei ddefnyddio i greu seilwaith trafnidiaeth effeithiol sy’n cysylltu holl ranbarthau Cymru â’i gilydd, ac y dylai hyn gynnwys y prosiectau canlynol:

(a) gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru; gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de; a chreu rhwydweithiau rhanbarthol yn ein prif ardaloedd trefol fel prosiect metro de Cymru a phrosiect metro eang yng ngogledd Cymru;

(b) atebion trafnidiaeth sy’n addas i Gymru wledig a’i heriau demograffig a daearyddol penodol; ac

(c) trydaneiddio prif linellau rheilffordd gogledd a de Cymru, a gwaith diweddaru eang ar rwydwaith ffyrdd ehangach Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:32, 5 Hydref 2016

Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, er rwyf mewn cryn benbleth, y mae’n rhaid i mi ddweud, achos nid yn aml rwy’n sefyll i siarad am rywbeth sydd yn ddim byd i’w wneud efo ni yma yng Nghymru. Rydym ni’n sôn am brosiect seilwaith i Loegr yn unig. Dyna beth yw HS2. Wrth gwrs, os bydd y peth yn cael ei basio, byddwn ni i gyd yn talu amdano fe, ond nid ydym ni’n gwneud y penderfyniad yn y fan hon. Mae’r penderfyniad yn cael ei wneud mewn lle arall. Felly, rwyf mewn cryn dipyn o benbleth, gallaf ddweud.

Beth y buaswn i yn ei ddweud yw, os yw’r prosiect HS2 yma yn mynd yn ei flaen, dylem ni gael yma yng Nghymru y cyllid canlyniadol Barnett i adlewyrchu’r ffaith yna, achos mae yna gynifer o brosiectau mawr, gan gynnwys rheilffyrdd, sydd wedi digwydd yn Lloegr o’r blaen ac nid ydym ni wedi cael yr arian canlyniadol Barnett o hynny—megis y llinell Jubilee, megis Crossrail. Nid oes dim byd wedi dod i lawr i’r fan hon fel arian canlyniadol o hynny. Wedyn, os yw’r prosiect yma yn mynd yn ei flaen, ein gobaith ni yn y Blaid yw y byddwn ni’n cael arian sylweddol—sylweddol yn nhermau Cymru, beth bynnag—fel cyllid canlyniadol Barnett.

Yn y bôn, dywedodd rhywun rywbryd, os ydych chi eisiau mynd o Lundain i Birmingham 20 munud ynghynt, wel daliwch y trên cynnar, onid efe? Daliwch y trên cynharach. Nid oes yn rhaid gwario miliynau ar drên fel hyn. Wedi dweud hynny, mae angen arian i’w fuddsoddi mewn gwell cysylltiadau yma yng Nghymru. Ac fe wnaf achub ar y cyfle i sôn am hynny achos yr acen yn y lle yma yw sôn am effaith prosiectau ar Gymru. Mae’n ddirfawr amlwg bod angen gwella cysylltiadau rhwng de a gogledd Cymru. Mae yna sawl prosiect yn yr arfaeth. Wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn am yr angen i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae hynny o dan fygythiad, wedi pleidlais Brexit. Mae yna nifer o gynlluniau i wella ffyrdd de-gogledd, gogledd-de, yn ogystal â gwella’r rheilffyrdd gogledd-de, de-gogledd, sydd angen buddsoddiad ynddyn nhw rŵan. Buaswn i hefyd yn licio gweld ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, er enghraifft, er mwyn i ni allu sôn am brosiectau sy’n debygol o ddigwydd o fewn ffiniau Cymru, achos dyna’r peth y dylem ni fod yn dadlau arno fo yn y lle hwn yn gyson.

Mae pobl wastad yn mynd i ddweud, ‘O le y buasech chi’n cael y pres?’ Wel, os yw HS2 yn mynd i gael ei adeiladu, fel rydw i wedi dweud eisoes, rydym ni’n mynnu arian canlyniadol Barnett o hynny, achos nid yw wastad yn digwydd, o bell ffordd. Dyna pam y gwnaethom ni lansio, yr wythnos hon, y NICW—ein NICW ni, ontefe? Ein comisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn arf ac yn gorff a fydd yn galluogi benthyca ar raddfa eang; benthyca pan fydd yn rhad i wneud hynny, fel y mae o ar hyn o bryd; ac yn gorff lled braich i ddenu buddsoddiad enfawr er mwyn inni allu gwireddu rhai o’r dyheadau sydd gennym ni. Mae yna tua £40 biliwn o brosiectau isadeiledd yn y ‘pipeline’ yma yng Nghymru, ac nid oes yna ddim ‘prospect’ gan yr un ohonynt i weld golau dydd ar hyn o bryd. Mae’n rhaid inni feddwl yn llawer iawn ehangach ac yn llawer iawn mwy mentrus ynglŷn â sut rydym yn mynd i’r afael â’r angen i wella ein hisadeiledd ni.

I droi at y terfyn, rydym ni wedi cael dadl gan UKIP ar ysgolion gramadeg, sydd yn bod yn Lloegr ac nid yng Nghymru, ac rydym ni’n cael dadl heddiw ar HS2 sydd yn brosiect isadeiledd i Loegr, nid yng Nghymru. Beth nesaf? Beth fydd pwnc nesaf dadl UKIP yn y lle hwn? Dadl ar gynllun datblygu gwledig Wiltshire, efallai? Diolch yn fawr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:36, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yma, bythefnos yn ôl, ymunodd UKIP â’r pleidiau eraill i gytuno ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gynigiwyd gennyf fi, cynnig a oedd yn cydnabod bod yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gyflwyno gwelliannau i reilffordd gogledd Cymru. Felly mae’n ddryslyd braidd eu bod, wrth alw heddiw am ddileu prosiect HS2 a defnyddio’r arbedion cyfalaf, a dyfynnaf, ‘i wella’r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys... diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru’, yn mabwysiadu safbwynt anghyson sy’n gwrthddweud ei hun yn llwyr mewn gwirionedd.

Mae adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’, a gefnogir gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, y ddwy brifysgol a’r ddau grŵp o golegau addysg bellach, yn galw am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. Mae’r cynllun seilwaith i alluogi twf, a nodir o’i fewn, yn cynnwys cyflwyno prosbectws manwl o’r enw ‘Growth Track 360’, ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffordd a chysylltedd gyda HS2 yng nghanolfan Crewe—yn cynnwys argymhellion i wella: Gwella amlder a chyflymder gwasanaethau...; Gwella cynhwysedd y rhwydwaith...; Gwella’r stoc gerbydau...; Trydaneiddio’r rhwydwaith...; Gorsafoedd gwell yng Nglannau Dyfrdwy ‘.

Pleidleisiodd UKIP dros hyn bythefnos yn ôl. Cyhoeddwyd y prosbectws ‘Growth Track 360’ ei hun ym mis Mai 2016 gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a galwai am fuddsoddi sylweddol mewn rheilffyrdd i alluogi twf yn economi drawsffiniol gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy.

Lansiwyd ‘Growth Track 360’, y cyfeirir ato yn y ddogfen, er mwyn sicrhau £1 biliwn o welliannau i’r rheilffyrdd er mwyn trawsnewid economi ranbarthol gogledd Cymru a Swydd Gaer a darparu 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd. Mae ei alwadau yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu ohono:

Trydaneiddio’r rheilffordd o Crewe i Ogledd Cymru er mwyn gallu cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac er mwyn i drenau cyflym Llundain allu mynd yn eu blaen i Fangor a Chaergybi.

Mae’r buddsoddiadau hanfodol y mae’n manylu arnynt yn cynnwys, a dyfynnaf,

Paratoi ar gyfer HS2... Trydaneiddio rhwng Crewe a Chaergybi: Cyfanswm effaith/ cyfraniad i’r economi o £2.5bn; Caniatáu i drenau Pendolino allu rhedeg o Crewe i Arfordir Gogledd Cymru, a gwasanaethau clasurol sy’n gydnaws â HS2 o bosibl; Er mwyn hwyluso gwasanaethau trydanol i redeg rhwng Arfordir Gogledd Cymru a Manceinion/Maes Awyr Manceinion a chysylltu â Northern Powerhouse Rail.

Mae’r gwelliannau i’r gwasanaeth y mae’n eu rhestru yn cynnwys

Un trên yr awr: Caergybi—Caer—Crewe—Llundain (Euston) (cysylltedd HS2 uniongyrchol).

O dan ‘adenillion ar fuddsoddiad’ a’r hyn y mae’n ei ddiffinio fel ‘cymhareb cost a budd cadarnhaol’, mae’n dweud y bydd paratoi ar gyfer HS2 yn hwyluso gallu i ymestyn gwasanaethau Pendolino a HS2 y tu hwnt i Crewe i Gaer a Gogledd Cymru a

Chysylltedd gyda Lerpwl, Manceinion, Leeds a Phwerdy’r Gogledd.

Mae cynhwysedd ychwanegol, gydag amserau teithio cyflymach, yn hanfodol ar gyfer cymudwyr a chludiant nwyddau, ac mae gallu cysylltu â HS2—ac rwy’n dyfynnu eto o ddogfen ‘Growth Track 360’—yn golygu na all cwmnïau a phobl sy’n ystyried adleoli ddiystyru gogledd Cymru. Bydd cael gwared ar rwystrau a grëwyd gan ddiffyg seilwaith rheilffyrdd yn lleihau tagfeydd, yn gwella logisteg busnesau ac yn denu buddsoddiad a swyddi.

Felly, er budd cysondeb ac undod â gogledd Cymru, rwy’n annog UKIP i gydnabod, fel y gwnaethant bythefnos yn ôl, fod llwyddiant y weledigaeth ar gyfer twf yr economi yng ngogledd Cymru yn seiliedig i raddau helaeth ar gadw prosiect HS2 ac felly i ddychwelyd at y safbwynt a gefnogwyd ganddynt yma bythefnos yn ôl. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:41, 5 Hydref 2016

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a chroesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn? Rwy’n credu bod gennym ger ein bron gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth o’r radd flaenaf yng Nghymru. Ynghyd â metro’r de a metro’r gogledd-ddwyrain, masnachfraint newydd Cymru a’r gororau, gwaith gwella ar yr A55, ffordd liniaru’r M4, ailffurfio ein rhwydwaith bysiau a’r llwyfan y mae ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei roi i ni i gyflawni newid moddol, rwy’n credu bod gennym gyfle gwych i greu system drafnidiaeth integredig o safon ryngwladol ledled Cymru.

Mae’r integreiddio hwnnw’n hanfodol. Mae’n hanfodol am fod system drafnidiaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn darparu mynediad at swyddi a gwasanaethau. Yn ei dro, mae’n ganolog i economi sy’n cyflawni ar lefel uchel, ac mae gan ein rhwydwaith rheilffyrdd rôl ganolog i’w chwarae yn hynny. Credaf y bydd cysylltiadau teithio pellter hir effeithlon a datblygu HS2 yn sicrhau manteision sylweddol i ganolbarth a gogledd Cymru fel rhan o rwydwaith rheilffyrdd integredig ar draws y DU. A rhennir y safbwynt hwn yn llwyr gan gyfranogwyr ‘Growth Track 360’, gan gynnwys addysg bellach, awdurdodau lleol, cynghorau yn Lloegr ac wrth gwrs, y sector preifat.

Rwyf am wneud yn siŵr ei fod yn cael integreiddio’n briodol, fodd bynnag, i economi gogledd Cymru. Gellid rhyddhau potensial aruthrol y rhanbarth pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllid i drydaneiddio prif reilffordd arfordir gogledd Cymru rhwng Caergybi a Llandudno i Warrington a Crewe, a datblygu canolfan gwbl integredig yn Crewe. Yn y pen draw, gallai hyn alluogi trenau sy’n teithio i ac o ogledd Cymru i ddefnyddio seilwaith cyflym newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau manteision gorau HS2, ond rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi cytuno i ddatganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a phwerau i gyfarwyddo Network Rail, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau ar y setliad datganoli llawn a argymhellir gan y comisiwn.

Er nad yw cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, rydym wedi defnyddio ein pwerau i fuddsoddi mewn gwelliannau i’r rheilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd y Cambrian a rhwng Saltney a Wrecsam. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington i ddatblygu’r achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd fel na fydd ein seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru yn llithro ymhellach ar ôl yr hyn y mae gweddill Prydain yn ei fwynhau.

Nid yw hanes diweddar yn gadarnhaol, fodd bynnag. Mae data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn dangos mai oddeutu 1 y cant yn unig o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn gwelliannau i’r seilwaith rheilffyrdd a wariwyd yn ardal y llwybr yng Nghymru rhwng 2011 a 2015. Rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi ymrwymiad y bydd yn gwario ei chyfran deg o fuddsoddiad ar welliannau i’r rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y cyfnod ariannu nesaf.

Mae angen i’r setliad gydnabod y tanfuddsoddi hanesyddol a welsom yng Nghymru, a’r ffaith fod llwybr Network Rail Cymru yn ymestyn i mewn i Loegr. Nawr, nid wyf yn dymuno rhoi’r gert o flaen y ceffyl, ond rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU yn awr am gadarnhad y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n syth ar ôl cwblhau’r trydaneiddio i Gaerdydd yn 2018. Y cynllun i ymestyn i Abertawe yw hwn wrth gwrs. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadarnhau na fydd Cymru ar ei cholled yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. O arwyddocâd allweddol o ran cyllid ar gyfer darparu metro de Cymru a thrydaneiddio i Aberdaugleddau a Chaergybi, fel sy’n ofynnol erbyn 2030 o dan y rheoliadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, rhaid sicrhau bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU i gyflawni’r gofynion hyn. Mae ar Gymru ei angen, ac mae ar ein heconomi ei angen.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 5 Hydref 2016

Galw ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch. Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau i’r ddadl hon. Fe soniaf am Russell George pan ddywedodd ein bod yn methu cydnabod y manteision. Ond mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr economaidd yn dweud na fydd unrhyw fanteision i economi Cymru os caiff HS2 ei hadeiladu. Ac yna aeth Mark Isherwood ymlaen i sôn am y ddogfen ffansïol hon, lle bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yn hollol sicr y byddant yn trydaneiddio gogledd Cymru, er y gallai’r prosiect hwn fod wedi costio biliynau o bunnoedd yn fwy. Dai Lloyd—wel, rwy’n eithaf dryslyd a dweud y gwir, Dai, gan fod pawb arall yn y Siambr hon yn cydnabod bod y prosiect hwn yn effeithio ar Gymru mewn ffordd—naill ai, fel y dadleuwn ni, mewn modd niweidiol, neu fel y mae pobl eraill sydd wedi siarad—[Torri ar draws] A gaf fi ateb hyn? Diolch. Mae eraill yn dweud y bydd o fudd mawr iddi. Ond, wyddoch chi, yn ystod yr holl ddadleuon ar adael yr UE, clywsom lu o amheuon yn cael eu lleisio gan Blaid Cymru ynglŷn â pharodrwydd Llywodraeth y DU i drosglwyddo’r cyllid a oedd yn dod yn flaenorol i Gymru o Frwsel. Eto i gyd, yma, maent yn hollol fodlon dibynnu ar haelioni honedig ddiddiwedd yr un sefydliad i ariannu economi Cymru ar ffurf taliadau canlyniadol. Achos gwaeth na’r un, os caf ddweud, o ragrith noeth.[Torri ar draws.] Roeddwn yn gwneud yr union bwynt. Wel—

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Ken Skates—fe soniaf am yr hyn oedd gan Ken i’w ddweud. Ken, ategaf eich holl ddyheadau i wella’r system drafnidiaeth yng Nghymru, a dyna’r union ddadl rydym yn ei chyflwyno heddiw: y bydd cyllid y prosiect HS2 yn effeithio’n aruthrol ar eich gallu chi eich hun, gan ddefnyddio eich holl sgiliau, ac rwy’n siŵr y gwnewch, i gael cymaint o arian ar gyfer y gwaith uwchraddio angenrheidiol ag y bydd ei angen arnom mewn gwirionedd yng Nghymru. A’r hyn rydym yn ei ddweud yw hyn: pe bai’r prosiect hwn yn cael ei roi heibio, byddai’r oddeutu £50 biliwn, a fydd yn ôl pob tebyg yn £70 biliwn yn y pen draw, yn cael ei wario’n well o lawer ar uwchraddio’r rhwydwaith cyffredinol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ond yn bendant felly ledled Cymru hefyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 5 Hydref 2016

Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.